Mae Cerbydau wedi eu gadael yn broblem ledled y DU gyfan. Yn ogystal ag amharu ar amwynder gweledol ardal ac yn aml yn achosi anghyfleustra uniongyrchol i drigolion, maent hefyd yn dargedau ar gyfer llosgi bwriadol a fandaliaeth.
O dan Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978 (sydd wedi'i diwygio gan sawl Deddf a Rheoliad ers hynny), mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i symud cerbyd sydd wedi'i adael ar unrhyw dir agored neu ar unrhyw ffordd y mae gan y cyhoedd fynediad ati.
Beth yw cerbyd wedi ei adael?
Nid oes diffiniad cyfreithiol o beth yw cerbyd wedi ei adael. Mae'r amgylchiadau yn awgrymu nad oes gan y perchennog ddiddordeb pellach ynddo. Er nad oes yn rhaid iddo gyfateb i un neu bob un o'r enghreifftiau canlynol, mae swyddogion cyngor yn defnyddio'r ystyriaethau hyn a rhai tebyg wrth benderfynu p'un a yw cerbyd wedi'i adael:
- Dim treth neu ddim HOS
- Dim ceidwad lleol yn agos
- Ei fod yn yr un lle am gyfnod o amser
- Teiar(s) fflat
- Wedi cael ei fandaleiddio
- Wedi'i barcio'n wael
- Wedi'i adael ar dir nad yw'r perchennog yn berchen arno
- Anniogel
- Yn cynnwys gwastraff
- Wedi'i losgi
Nid oes yn rhaid i gerbyd fodloni unrhyw un o'r meini prawf uchod iddo gael ei ystyried yn adawedig. Gwneir penderfyniad swyddog y cyngor sy'n ymchwilio i'r achos ar ôl ystyried yr holl amgylchiadau unigol ac yn ôl ei ddisgresiwn ei hun. Er enghraifft, er y byddai'n anarferol, gallai cerbyd dal fod â threth arno a chael ei ystyried yn adawedig. I'r gwrthwyneb, nid yw cerbyd heb dreth o reidrwydd wedi ei adael.
Mae'r cyngor yn gyfrifol am symud cerbydau wedi'u gadael oddi ar dir cyhoeddus, gan gynnwys y priffyrdd. Cerbyd wedi ei adael yw un sydd wedi ei adael yn yr awyr agored gan ei berchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd iddo.
Rydym yn gyfrifol am symud Cerbydau wedi eu gadael o dir cyhoeddus, gan gynnwys priffyrdd. Cerbyd wedi ei adael yw cerbyd a adawyd yn yr awyr agored gan ei berchennog heb fwriad o ddychwelyd ato.
Os yw cerbyd yn rhwystr ar y briffordd neu, yr ystyrir ei fod wedi'i ddwyn, yn rhan o drosedd neu heb dreth dylech roi gwybod i Heddlu Gwent drwy ffonio (01633) 838111.
Ni ddylid honni fod cerbyd yn gerbyd wedi ei adael er mwyn datrys anghydfod yn y gymdogaeth neu dim ond oherwydd:
- Nad oes treth arno
- Ei fod wedi'i leoli mewn lle parcio
- Ei fod mewn cyflwr gael ac yr ystyrir ei fod yn cael effaith andwyol ar yr ardal
Rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael
The easiest way to report an abandoned vehicle is to do it online.
Alternatively, call Environmental Health on 01443 866544.
Wrth roi gwybod am gerbyd wedi ei adael, mae angen i ni wybod:
- Your name, address, postcode and telephone number
- Vehicle registration number, make, model and colour
- Tax disc expiry date
- Exact location of the vehicle
- Condition of the vehicle
- Reason why vehicle is believed to be abandoned
- Length of time the vehicle has been at that location