Cynnwys Dinasyddion
Awgrymiadau

Beth yw’r rhain?

Awgrymiadau da i’w defnyddio.

Beth yw eu diben?

Mae’n dda cael awgrymiadau fel y gellir cyfeirio atynt, cynllunio, gwirio ac ati.

Awgrymiadau

Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu denu i weithredu os:

  • 1. Yw’r mater dan sylw’n un sydd o bwys iddynt neu sydd yn agos at eu profiad personol.
  • 2. Gofynnir iddynt am eu mewnbwn ac os gwneir iddynt deimlo bod croeso i'w barn.
  • 3. Oes gan y corff sydd yn gofyn am eu barn rym i wneud rhywbeth ynglŷn â’r mater.
  • 4. Gwneir yn glir y bydd eu sylwadau’n cael eu hystyried, a’u hadlewyrchu cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn y penderfyniad a wneir neu’r hyn y penderfynir ei wneud ynglŷn â’r mater dan sylw.
  • 5. Yw’r ffurf ar gynnwys yn addas ar eu cyfer hwy.
  • 6. Derbyniant yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddynt gymryd rhan yn effeithiol.

Seiliwyd ar: [Ffynhonnell: Leach, S, Lowndes, V, Cowell, R a Downe, J (2005) Meta-Evaluation of the Local Government Modernisation Agenda: Progress Report on Stakeholder Engagement with Local Government. London, DU: Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.]