Beth yw Cynnwys Dinasyddion?

Beth yw hwn?

Teclyn gwybodaeth yw hwn sydd yn egluro beth yw ystyr termau allweddol y byddwch yn debygol o ddod ar eu traws mewn cysylltiad â chynnwys dinasyddion.

Beth yw ei ddiben?

Mae dau brif ddefnydd i’r teclyn.

  • Gellir cyfeirio ato
  • Gellir ei ddefnyddio fel testun trafodaeth, mewn gweithdy efallai.

Termau Allweddol

Rydym yn sylweddoli y bydd gwahanol bobl yn diffinio’r termau canlynol mewn gwahanol ffyrdd. Serch hynny, defnyddiwyd y diffiniadau canlynol at ein dibenion ni.

Casglwyd y diffiniadau o wahanol ffynonellau. (Cydnabyddwn ffynonellau a gafwyd yn Vegeris et al (2007) ynghyd â Wikipedia a togetherwecan). Rydym yn sylweddoli nad ydynt i gyd yn hawdd eu deall ac felly rydym wedi ychwanegu eglurhad at rai ohonynt.

Dinasyddiaeth Weithredol (gweler hefyd Dinesydd Cynwysedig)

Dinasyddion sydd yn manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddiffinio a mynd i’r afael â phroblemau eu cymunedau a gwella ansawdd eu bywydau. (cyfieithiad o ddiffiniad ar togetherwecan)

Ymglymiad Dinasyddol

Mae nifer o ffurfiau i ymglymiad dinasyddol – o unigolion yn gwirfoddoli i ran a gymerir gan sefydliad i gyfranogiad etholiadol. Gall gynnwys ymdrechion i fynd i’r afael yn uniongyrchol â rhyw fater, cydweithio gydag eraill i ddatrys problem gymunedol neu ryngweithio gyda sefydliadau democratiaeth gynrychioliadol. (cyfieithiad o ddiffiniad Wikipedia)

Gall unigolion neu grwpiau gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft, drwy bartneriaeth gymunedol neu drwy ymgyrchu i atal cau Swyddfa Bost.

Adfywio Cymunedol

Adfywio cymdeithas gymunedol drwy ddatblygu cymunedau cryf, bywiog a grymus, lle gall pobl wneud pethau drostynt eu hunain, gan ddiffinio’r problemau sydd yn eu hwynebu a mynd i’r afael â hwy mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus. Mae adfywio cymunedol yn cynnwys tair elfen hanfodol: dinasyddiaeth weithredol, cymunedau a gryfhawyd a phartneriaethau i gwrdd ag anghenion y cyhoedd. Cyflawni’r broses hon yn ymarferol yw cynnwys cymuned. (cyfieithiad o ddiffiniad togetherwecan)

Yn y bôn mae hyn yr un peth ag Ymglymiad Dinasyddol ond mae’r pwyslais yma ar gydweithio mewn tîm.

Democratiaeth Trafod

Gelwir democratiaeth trafod weithiau’n ddemocratiaeth eiriog ac mae’n derm a ddefnyddir gan ddamcaniaethwyr gwleidyddol ar sail cyfaddawd rhwng gwneud penderfyniadau drwy gonsensws a democratiaeth gynrychioliadol. Yn groes i’r ddamcaniaeth draddodiadol am ddemocratiaeth a oedd yn seiliedig ar economeg ac sydd yn pwysleisio mai pleidleisio yw’r sefydliad canolog mewn democratiaeth, mae’r rhai sydd yn egluro theori democratiaeth trafod yn dadlau na ellir gwneud deddfau’n ddilys ond ar sail trafodaeth gyhoeddus gan y dinasyddion (cyfieithiad o ddiffiniad Wikipedia)

Yn y bôn golyga hyn fod gan y bobl gyffredin gymaint o hawl i fod yn rhan o’r dasg o wneud penderfyniadau ag yw swyddogion etholedig.

Cynnwys

  • Mae Cynnwys yn y cyswllt hwn yn golygu’r un peth fwy neu lai ag ymglymiad neu gyfranogiad
  • Mae pobl yn eu cynnwys eu hunain i raddau gwahanol, o ddarllen cylchlythyr i Gadeirio fforwm pobl hŷn
  • Gall Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill gyflwyno dulliau gwahanol o gynnwys pobl, er enghraifft, ymgynghori mewn modd ystyrlon ar wahanol faterion neu redeg panel dinasyddion
  • Mae rhai mathau o gynnwys yn gofyn am fwy o ymglymiad, er enghraifft, trefnu ymgyrch
  • Mae cynnwys yn digwydd o’r ddwy ochr – rhaid cydweithredu.

Dinesydd Cynwysedig

Rhywun sydd:

  • Yn cydnabod hawliau a dyletswyddau bob dydd, er enghraifft yr hawl i bleidleisio a pharchu’r gyfraith
  • Helpu i gefnogi a datblygu bywyd cymunedol, er enghraifft drwy bleidleisio a mynychu cyfarfodydd a gynhelir gan yr Awdurdodau Lleol
  • Yn weithgar ym mywyd y gymuned, er enghraifft drwy helpu cymdogion neu gynorthwyo timau chwaraeon yn lleol
  • Helpu i hyrwyddo’r cyswllt rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd personol
  • Yn barod i wrando a dysgu – yn arbennig ‘gwrando ar safbwyntiau eraill’ a ‘dysgu cytuno i anghytuno’
  • Yn gefnogol i ddemocratiaeth a’r cyfan a golygu hynny.

Gwirfoddolwr/wraig

Rhywun sydd yn treulio amser yn gwneud rhywbeth yn ddi-dâl gyda’r nod o fod o fudd i’r amgylchedd neu i bobl eraill, naill ai unigolion neu grwpiau heblaw am, neu’n ychwanegol at, berthnasau agos. (cyfieithiad o ddiffiniad togetherwecan)