Cynnwys Dinasyddion
Lefelau o gynnwys yn ôl Arnstein

Beth yw hwn?

Yn y 1960au cyflwynodd Arnstein y syniad o lefelau o gynnwys. Dyma ddiweddariad.

Beth yw ei ddiben?

Mae’r teclyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth feddwl am y Bobl yr ydych yn ceisio denu eu diddordeb.

Lefelau o Gynnwys Dinasyddion

Mae’r llun isod yn cyfleu’r syniad syml bod rhai pobl yn cymryd mwy o ddiddordeb na’i gilydd fel dinasyddion. Er enghraifft, mae person sydd wedi bod yn dangos diddordeb ac yn gweithredu yn y gorffennol yn fwy tebygol o wneud yr un fath yn y dyfodol. Ar y llaw arall, gall fod yn anodd ceisio perswadio person i gymryd rhan mewn ymgyrch os na ddangosodd erioed ddiddordeb. Mae’r ysgol sydd gan Arnstein yn awgrymu bod rhaid i bobl gychwyn ar ris isaf yr ysgol a dringo i fyny o’r fan honno.

Fel pob teclyn, nid oes unrhyw werth i hwn oni fydd pobl yn ei ddefnyddio. Er nad yw ysgol Arnstein yn ateb yr holl ofynion mae’n rhywbeth i feddwl amdano.

Ysgol Arnstein

Ysgol cynnwys dinasyddion Arnstein