Prosiectau Peilot

Adroddiad peilot ar gyfer Gallu i Gynnwys Caerffili

Mae’r adroddiad hwn yn ateb eich cwestiynau Beth, Pam, Sut, Pwy ayb ynglŷn â threialu cwrs yn cynnig Awgrymiadau buddiol a fyddai’n rhoi cyfle i’r gweithwyr “proffesiynol” ganfod mwy am gynnwys yn “effeithiol” a’r hyn sydd ei angen. agor adroddiad PDF

Rhwystrau Rhag Ymgysylltu â Phobl: Adroddiad Peilot Ymdrin â’r ddwy ochr yn Sir Ddinbych

Mae’r adroddiad hwn yn ateb eich cwestiynau Beth, Pam, Sut, Pwy ayb ynglŷn â chynllun peilot Sir Ddinbych i gyflwyno sgiliau newydd ym maes ymgysylltu â phobl i staff yr Awdurdod Lleol. Y nod oedd cyflawni hyn trwy sicrhau bod pobl hŷn yn cynnwys eu hunain. agor adroddiad PDF

Llythyrau Fideo gan Ddinasyddion Trelái - Adroddiad Peilot

Mae’r adroddiad hwn yn ateb eich cwestiynau Beth, Pam, Sut, Pwy ayb ynglŷn â chynllun peilot a gynigiodd gyfle i bobl hŷn fynegi eu barn fel unigolion ac fel grŵp trwy gyfansoddi ‘llythyrau fideo’ a’u hanfon at swyddogion yr Awdurdod Lleol. agor adroddiad PDF

Llythyrau fideo gan Grŵp Pensiynwyr Aberbargod – Adroddiad Peilot

Mae’r adroddiad hwn yn ateb eich cwestiynau Beth, Pam, Sut, Pwy ayb ynglŷn â’r ail gynllun peilot a oedd yn anelu at ddileu’r rhwystr hwn trwy gynnwys grŵp o bobl hŷn mewn sefyllfa lle gellid ymgynghori â hwy, sef mewn man lle teimlent yn gartrefol h.y. yn eu cyfarfod wythnosol yn neuadd y pentref.  agor adroddiad PDF

Rhwydwaith Staff sydd yn Ofalyddion - Merthyr Tudful

Mae’r adroddiad hwn yn ateb eich cwestiynau Beth, Pam, Sut, Pwy ayb ynglŷn â pheilot gyda rhwydwaith staff sydd yn ofalyddion. Y nod oedd eu galluogi i chwarae rhan ganolog yn y prosesau o wneud penderfyniadau am y gwasanaethau perthnasol i ofalyddion a dylanwadu ar y broses o newid yn y gweithle iddynt eu hunain ac i ofalyddion eraill. agor adroddiad PDF

Syniadau peilot a ddefnyddiwyd i gynorthwyo i ddatblygu trafodaethau mewn gweithdai rhanbarthol.

Dyma syniadau a ddatblygwyd ymysg yr holl ystod o aelodau Bwrdd Prosiect Ymgysylltu â Dinasyddion 50+. Ceir hefyd ychwanegiadau a ddeilliodd o’r gweithdy cyntaf a gynhaliwyd ar gyfer gweithwyr “proffesiynol” lle ceir safbwynt trawsffiniol o’r Cymoedd. Roedd llawer o’r syniadau hyn na ellid eu treialu trwy’r prosiect Ymgysyltu â Dinasyddion 50+.  agor adroddiad PDF

Sut mae Sicrhau y Clywir eich Llais – yn Gryno

Y syniad sydd y tu ôl i’r prosiect hwn yw sicrhau bod pobl yn gwybod am y gwahanol ffyrdd o gael clust i’w barn a dylanwadu ar benderfyniadau am wasanaethau a chefnogaeth i bobl hŷn. Ni fu modd treialu’r syniad hwn trwy’r prosiect Ymgysylltu â Dinasyddion 50+. agor adroddiad PDF

Rhwygo’r Rhwystrau

Mae hyn yn dod â’r broses o graffu a/neu gyfarfodydd y cyngor i’r gymuned gyfan mewn man mwy anffurfiol a hygyrch ar gyfer pobl 50+. Nod y syniad peilot hwn yw pontio’r bwlch trwy ddod â’r broses o graffu a/neu gyfarfodydd o’r cyngor i rywle sydd yn fwy anffurfiol a hygyrch ar gyfer pobl 50+. Ni fu modd treialu’r syniad hwn trwy’r prosiect Ymgysylltu â Dinasyddion 50+. agor adroddiad PDF