Pobl a Chynnwys Dinasyddion
Gwirfoddolwr/wraig Ymrwymedig ynte Un o'r “Rhai Arferol”

Beth yw hwn?

Mae hwn yn ymdrin â'r termau ‘rhai arferol’ a ‘gwirfoddolwr/wraig ymrwymedig’

Beth yw ei ddiben?

Mae hwn yn declyn i’ch helpu i feddwl am werth y rhai sydd fwyaf gweithgar a chofio mor bwysig yw denu diddordeb ystod mor eang o bobl ag y bo modd.

Yn aml iawn yr un wynebau a welir mewn ymgynghoriadau cymunedol. Weithiau gelwir y rhain, sydd yn mynychu’n gyson, yn ‘rhai arferol’.

Mae hwn yn derm amharchus. Mae’r bobl hyn yn barod i roi o’u hamser ac egni a dylid eu gwerthfawrogi oherwydd hynny. Ar y llaw arall, mae’r ‘rhai arferol’ weithiau’n mynnu pwysleisio eu diddordeb hwy mewn mater heb ystyried safbwyntiau eraill er eu bod yn eu cynrychioli. Ceir enghreifftiau o fforymau pobl hŷn sydd yn cael eu 'cymryd drosodd' gan grŵp bach llafar iawn.

Wrth lunio prosiectau cynnwys dinasyddion, bydd angen i chi gadw mewn cof yr angen am glywed llais pawb. Mae’n bosibl na fydd pawb sydd yn cymryd rhan o’r un farn â chi.

Gwirfoddolwyr Ymrwymedig neu'r “Rhai Arferol” - Beth yw’r Gwahaniaeth?

Mae’r canlynol yn ddyfyniad (wedi ei gyfieithu) o bapur a geir yn yr Adolygiad o Ymchwil (PDF, 451k).

“Mae’r term ‘y rhai arferol’ yn cyfleu peth o’r rhwystredigaeth a’r anfodlonrwydd gyda’r realiti presennol go iawn o ran cyfranogi mewn strwythurau ffurfiol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Dichon mai’r hyn sydd y tu ôl i hynny yw’r farn nad yw’r system yn gweithio, y dylai asiantaethau fod yn cynnwys ystod ehangach o bobl, mai’r rhai ‘anghywir’ mewn rhyw ffordd yw’r ‘rhai arferol’, ac efallai eu bod yn cytuno’n awtomatig â phenderfyniadau a wnaed mewn man arall. Yn ei hanfod, gwelir bod cyfranogi’n methu â chyflwyno newid. Adlewyrchodd trafodaeth am ran y ‘ rhai arferol’ yn y diffyg hwn. A ddylid beio’r ‘rhai arferol’ am hyn? A ydynt yn sefyll yn ffordd cyfranogiad ehangach, ac felly yn ffordd newid? Ynteu, a oes problemau mwy sylfaenol ynghlwm wrth y system, gyda’r canlyniad nad oes ond nifer gyfyngedig o bobl - y ‘rhai arferol’ - yn dewis cymryd rhan ynddi?

“Y neges gwbl gadarn a ddaeth o’r cyfraniadau at y drafodaeth oedd bod y feirniadaeth sydd ynghlwm wrth y term ‘y rhai arferol’ yn gosod y bai ar y rhai anghywir. Mae’n bosibl mai’r ‘rhai arferol’, yn syml, yw’r rhai sydd yn ddigon brwd i gymryd rhan er gwaethaf holl ddiffygion y system. Os ydym am gynnwys ystod ehangach o bobl, mae angen rhoi sylw i’r system ei hun. Yng ngeiriau un cyfrannwr:

tra byddwn ni’n “canolbwyntio ar y dybiaeth bod yr arweinwyr wedi gollwng [pobl] i lawr, ni fyddwn yn mynd i’r afael â’r wir broblem o ran y strwythur neu’r broses o wneud penderfyniadau, ac ni fyddwn yn mynd i’r afael â’i diffygion”.”

(Blakey, Richardson a York 2006)