Pobl a Chynnwys Dinasyddion
Gwirfoddolwyr ymrwymedig

Beth yw hwn?

Teclyn yw hwn sydd yn cynnwys proffil o’r gwirfoddolwr ymrwymedig. Seiliwyd hwn ar y dystiolaeth a ganfuwyd yn ystod yr ymchwil a wnaethom (PDF, 451k).

Beth yw ei ddiben?

Mae’r proffil canlynol yn declyn a fydd o gymorth i chi feddwl pa fath o berson sydd fwyaf tebygol o wirfoddoli ar gyfer prosiectau cynnwys dinasyddion. Mae’n cynnwys awgrymiadau hefyd ynglŷn â lle y byddwch fwyaf tebygol o ganfod gwirfoddolwyr ymrwymedig, er enghraifft mewn eglwys neu fosg. Yn gyffredinol mae llai na dau berson o bob cant wedi ymrwymo i wirfoddoli. Mae Ysgol Arnstein yn ffordd syml o ddangos sut mae lefelau pobl o barodrwydd i weithredu’n amrywio.

Proffil o Wirfoddolwr/wraig Ymrwymedig

Pobl Hŷn a Chynnwys Dinasyddion

Mae person hŷn sydd yn ddinesydd gweithredol yn debygol o fod:

  • Mewn lleiafrif o, dyweder, un o bob cant o ran y ffurfiau mwyaf gweithredol ar gymryd rhan.
  • Ar gyfartaledd oddeutu 65 oed.
  • Yn treulio mwy o amser yn gwirfoddoli, yn ôl pob tebyg, na dinasyddion arferol.
  • Â phersonoliaeth gymdeithasol – yn ddymunol, cymwynasgar a pharod i wrando.
  • Yn cael ei ysgogi gan y syniad o gael iechyd a lles meddyliol yn wobr am roi amser ac egni i’r gymuned.
  • Wedi derbyn addysg uwch na’r cyffredin.
  • Mewn iechyd corfforol da.
  • Yn meddu ar adnoddau ariannol digonol.
  • Yn amlwg yn y gymdeithas
  • Yn berson crefyddol.

Rhaid pwysleisio mai tebygol yw’r uchod i gyd.

Mae angen addasu a diwygio’r darlun hwn o’r dinesydd hŷn gweithredol i gyd-fynd â’r gwahaniaethau lleol. Er enghraifft, mae llawer o undebwyr llafur yn Ne Cymru’n weithgar iawn er nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn cyfateb â’r holl nodweddion uchod.

Sylw: Rhaid defnyddio’r proffil hwn gyda gofal. Mae llawer o bobl hŷn yn gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol – ond cymharol ychydig ohonynt sydd yn weithredol yn wleidyddol neu’n ddemocrataidd.