Pobl ac Ymgysylltu â Dinasyddion

Ganwyd Colin McGrath yng Nghaerdydd yn 1923. Yn ystod Yr ail Ryfel Byd fe frwydrodd ym Myrma dros ei frenin a'i wlad. Fe weithiodd ac fe dalodd treth incwm am bron i hanner canrif. Mae Colin bob tro yn pleidleisio. Mae'n parchu ac yn ufuddhau'r gyfraith. Dyw e ddim wedi cael ei drin yn dda gan y GIG ond dyw e ddim yn cwyno. Mae e moen mwynhau bywyd tawel - gan weld ei deulu cymaint â phosib.

Ymgartrefodd Mala Singh yn y DU yn yr 1970au cynnar ar ôl i'w theulu gael eu halltudio o Genia. Mewn naill ffordd neu'r llall mae Mala wedi bod yn gwirfoddoli ei holl fywyd. Fel merch yn ei harddegau bu'n codi arian ar gyfer elusennau meddygol a rhai eraill. Mae'n weithredol yn ei chymuned leol fel Cynghorydd, llywodraethwraig ysgol ac mae'n cefnogi datblygiad busnesau bychain. Yn genedlaethol, mae wedi cael ei phenodi'n i gomisiwn ar hawliau pobl hoyw a lesbiaid ymhlith y cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Beth sy'n gwneud person yn ddinesydd?

Mae'r ddwy stori fach yn ein hatgoffa bod pobl yn gwneud eu cyfraniadau fel dinasyddion mewn ffyrdd gwahanol ac mae parchu'r cyfraniadau gwahanol yn rhan bwysig o gynnwys.

Mae'r Adran Pobl ac Ymgysylltu â Dinasyddion hon yn canolbwyntio ar y bobl sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu fel gwirfoddolwyr yn hytrach na'r broses oymgysylltu, sy'n cael ei drin yn fwy manwl yn yr adran Ymgysylltu â Dinasyddion.

Teclynnau pobl

Pethau i'w hystyried:

  • Pa fath o berson sydd fwyaf tebygol o fod yn fwy cynwysedig fel dinesydd?
  • Yw dinasyddiaeth weithgar yn fath arbennig o wirfoddoli? 

Yn y Prosiect Ymgysylltu â Dinasyddion 50+ rydym wedi darganfod fod ystyried y math hwn o gwestiynau wedi ein helpu i ddeall natur cynnwys a'r gwerth mae'n ei ychwanegu i'r rhai sy'n cymryd rhan; gallant eich helpu chi hefyd o bosib.

Rhestr o declynnau - meddwl am bobl fel dinasyddion