Cronfa menter Caerffili
Gall cronfa menter Caerffili gynorthwyo busnesau a mentrau cymunedol newydd a sefydledig ledled y Fwrdeistref Sirol.
Pwy sydd â hawl i wneud cais?
Mae masnachwyr unigol, partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a grwpiau cymunedol i gyd yn gymwys i wneud cais am gymorth grant.
Mae’n anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint, gyda llai na 250 o weithwyr. Gall busnesau newydd hefyd wneud cais.
Gall costau prosiect cymwys gynnwys:
- gwefannau a gwefannau e-fasnach
- astudiaethau dichonoldeb
- cynllunio busnes
- costau marchnata untro
- cyfarpar cyfalaf
- caledwedd a meddalwedd TG
- gwelliannau i eiddo ac isadeiledd i adeiladau masnachol, diwydiannol a manwerthu
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n fusnes newydd, bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes ynghyd â ffurflen gais.
Os ydych chi'n gwmni sy'n bodoli eisoes bydd angen i chi hefyd gyflwyno cyfrifon masnachu.
Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol y Fwrdeistref Sirol.
Cysylltwch â Busnes@Caerffili.gov.uk am wybodaeth bellach ar feini prawf cymhwyster a manylion am y cais
Nodwch fod y cyllid cyfalaf i gyd wedi’i ddyrannu bellach ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Pa lefel o gyllid sydd ar gael?
Costau refeniw - Uchafswm y grant yw £2,000 ar gyfradd ymyrraeth o 45%.
Gall costau cyfalaf ar gyfer gwella eiddo gynnwys gwaith allanol a mewnol ar gyfer adeiladau busnes. Uchafswm y grant yw £10,000 ar gyfradd ymyrraeth o 50%
Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?
Asesir ceisiadau yn barhaus gan y Tîm Adnewyddu Menter Busnes.