Lexon Group

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i roi cyfle i fusnesau gweithgynhyrchu lleol sydd â mwy na 10 o weithwyr, gael mynediad at Raglen Gwella Cynhyrchedd Busnes y Cymoedd Technoleg. Mae'r rhaglen yn cynnwys diagnostig am ddim o'ch cwmni gyda chymorth cynhwysfawr. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys cymorth gweithredu, datblygu sgiliau, ymchwil a datblygu, allforio, a chymorth grant ar gyfer gwariant cyfalaf.

Mae Rhaglen Gwella Cynhyrchedd Busnes y Cymoedd Technoleg yn annog busnesau bach a chanolig:

  • I baratoi eu busnes ar gyfer y dyfodol trwy ddod yn fwy effeithlon
  • Cyflwyno technolegau newydd
  • Amrywio eu seiliau cwsmeriaid
  • Datblygu cynnyrch newydd

Cafodd Tîm Cymorth Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle i drafod sut mae Rhaglen Gwella Cynhyrchedd Busnes Caerffili wedi effeithio un o'n cwmnïau gweithgynhyrchu lleol...

Lexon Group

Mae Lexon Group yn gwmni argraffu, trin a chyflawni prosiectau, sy'n cynhyrchu datrysiadau print creadigol a syniadau arloesol i'w cleientiaid.

Esboniodd Dominic Hartley, Cyfarwyddwr Masnachol Lexon Group “Rydyn ni'n argraffu ac yn gorffen popeth yn fewnol sy'n lleihau ein hôl troed amgylcheddol ac yn arbed amser.”

Nod y cwmni yw bod mor gynaliadwy â phosibl, gan ddarparu adroddiadau i'w cleientiaid gyda gwybodaeth megis ble mae'r deunydd pacio yn dod ac adroddiadau ar wastraff.

 Mae Rhaglen Gwella Cynhyrchedd Busnes  y Cymoedd Technoleg wedi helpu Lexon Group trwy ddarparu diagnostig manwl o'r busnes a chyllid hanfodol i ddod â pheiriant ffoilio newydd i mewn i leihau amseroedd arwain o rhwng 4-8 wythnos i lai nag un wythnos.  Fe wnaeth hefyd gefnogi gwefan newydd i bacio datrysiad dylunio rhyngweithiol e-fasnach, i symleiddio proses ei gwsmeriaid ar gyfer archebu ar-lein.

 Parhaodd Mr Hartley “Derbyniais e-bost gan fy Rheolwr Gyfarwyddwr dros flwyddyn yn ôl ynghylch y Rhaglen Gwella Cynhyrchedd Busnes. Roedden ni'n edrych i wella ein cynhyrchiant, ac roedden ni o'r farn y gallai fod yn syniad da ymgeisio gan fod gennym ni brosiect mewn golwg eisoes.”

 Gyda'r cymorth, bydd amseroedd arwain yn lleihau'n sylweddol gyda'r peiriant ffoilio newydd a'r datrysiad dylunio rhyngweithiol cwsmer e-fasnach, a fydd yn helpu'r busnes i dyfu ei fusnes pecynnu cynnyrch. Mae'r cwsmer bellach yn gallu dewis y deunydd pacio sydd ei angen, lanlwytho'r dimensiynau sy'n ofynnol a byddai'r datrysiad e-fasnach yn cynhyrchu'r deunydd pacio mewn 3D, gan alluogi'r cwsmer i addasu gyda logos a brandio ac yna symud ymlaen i'r ddesg dalu, lle bydd y tîm yn cynhyrchu'r archeb i union ofynion y cwsmer.

Manteisiodd Lexon Group hefyd ar drosolwg diagnostig Rhaglen Gwella Busnes y Cymoedd Technoleg. Esboniodd Mr Hartley “Roedd cymaint o wahanol feysydd oherwydd rydyn ni'n eithaf unigryw. Anfonodd ein hymgynghorydd adroddiad 15 tudalen ac roeddwn i'n edmygu argymhellion yr adroddiad.  Roedd yn foi gwych, roedd ei adroddiad yn fanwl ac yn drylwyr er nad oedd ganddo gefndir pecynnu. Byddwn i'n argymell gwneud cais!”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyrchu rhagor o wybodaeth am Raglen Gwella Cynhyrchedd Busnes y Cymoedd Technoleg, cysylltwch â ni ar busnes@caerffili.gov.uk.

Byddwch yn ymwybodol, rhaid i ymgeiswyr fod yn gwmni gweithgynhyrchu a busnes bach a chanolig yng Nghymru gyda mwy na 10 o weithwyr.