Rhoi gwybod am ddamwain yn y gwaith

Mae'n rhai rhoi gwybod am ddamweiniau penodol, afiechydon, ac achosion eraill megis digwyddiadau cael a chael, sy'n digwydd yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd. Gelwir y gofyn cyfreithiol hwn yn RIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus).

Mae hyn er mwyn caniatáu i ni, neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, i ymchwilio i'r mater yn llawn.

Gallwch ganfod beth sy'n ddigwyddiad y dylid rhoi gwybod amdano a sut i wneud adroddiad RIDDOR ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Cofnodi damweiniau a digwyddiadau yn y gwaith (PDF)

Dylid cadw cofnod o'r holl ddamweiniau yn y gwaith, hyd yn oed y rhai hynny nad oedd angen rhoi gwybod amdanynt. Gellir gwneud hyn mewn llyfr damweiniau.

Cysylltwch â ni