Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru am hysbysiadau e-bost. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r polisi a phroses ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol i ganiatáu mecanwaith cyson, tryloyw a hawdd ei gyfathrebu i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol. Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o'r rhesymeg a'r broses. Dyluniwyd Canllaw Trosglwyddo Asedau Cymunedol i ddarparu gwybodaeth fanwl am y broses, yr amserlenni a'r ystyriaethau ac mae ynghlwm yma i chi gyfeirio ato.

Beth yw trosglwyddo asedau cymunedol?

Fel arfer, bydd gwaredu asedau ar sail fasnachol i sicrhau'r gwerth gorau. Nod y broses hon yw gwneud cais i brynu, prydlesu neu ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r Cyngor. Gellir defnyddio Trosglwyddo Asedau Cymunedol fel dewis arall yn lle cael gwared ar asedau am resymau masnachol lle gallai fod gan yr ased fudd cymunedol. Mae rheoli/perchen ar yr ased yn cael ei drosglwyddo i drydydd parti sefydliad cymunedol nad yw'n sector cyhoeddus.

Nid yw trosglwyddo asedau cymunedol yn llwybr i waredu asedau dros ben ac arbed costau; pan ymgymerir ag ef, dylid ei ddefnyddio i ddod â buddion i gymunedau drwy gydweithredu a rhyddhau asedau at ddefnydd y gymuned. Mae'n ymwneud â'r Cyngor yn gweithio gyda chymunedau i ystyried pa asedau a allai fod yn addas i'w trosglwyddo, gyda'r bwriad o ddiogelu'r ased at ddefnydd cymunedol yn y dyfodol, drwy drefniant rheoli gwahanol.

Pwy all wneud cais?

Rhagwelir y gallai sefydliadau cymunedol fod yn gyngor cymuned, yn sefydliad trydydd sector neu'n grŵp cymunedol sydd wedi'i gyfansoddi'n iawn.

Defnyddiau posibl i'w hystyried?

Rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch trosglwyddo asedau cymunedol posibl fod yn seiliedig ar ddefnydd parhaus yr ased ar gyfer y gymuned gyfan ac nid grŵp diffiniedig o bobl at bwrpas penodol. Dylai'r defnydd arfaethedig, felly, fod mor helaeth â phosibl a dylai ganolbwyntio ar les cymunedol ehangach. Bydd materion yn ymwneud â chydraddoldeb, fel mynediad i bobl anabl, yn rhan o'r ystyriaeth. Os bydd gwasanaeth cysylltiedig yn cael ei ddarparu o'r ased, bydd gwerthusiad o allu'r sefydliad cymunedol i ddarparu'r gwasanaeth yn ddwyieithog yn rhan o'r broses asesu.

Asedau i'w hystyried

Gellir nodi ased fel ased cymunedol sy'n gallu cael ei drosglwyddo drwy nifer o lwybrau, sef;

  • Efallai bod y Cyngor yn nodi adeilad posibl neu ddarn o dir a allai fod yn addas i'w gynnig fel ased cymunedol sy'n gallu cael ei drosglwyddo
  • Gall adeilad ddod yn weddill i ofynion gweithredol a gall y Cyngor geisio cael gwared ar yr ased. Gall y Cyngor farnu bod gwerth cymunedol posibl a gwahodd mynegiannau o ddiddordeb.
  • Gall grŵp cymunedol fynd at y Cyngor a chyflwyno ymholiad hapfasnachol.

Marchnata

Os ydyn ni eisoes yn ymwybodol o'r angen i waredu ased penodol, cynigir, lle nodir budd cymunedol posibl, y bydd y Cyngor yn mabwysiadu proses waredu ddeuol. Bydd ased yn cael ei hysbysebu/farchnata ar wefan y Cyngor a thrwy gyfryngau cymdeithasol fel cyfle masnachol. Byddwn ni hefyd yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb  i fesur unrhyw ddiddordeb cymunedol posibl.

 

Os cyflwynir unrhyw fynegiannau o ddiddordeb â phwrpas cymunedol, bydd y llwybr gwaredu masnachol yn cael ei ohirio nes bod y mynegiannau o ddiddordeb wedi’u hystyried.

Bydd unrhyw ymholiad hapfasnachol yn cael ei ystyried, a gall gynnwys ymgynghori â meysydd gwasanaeth eraill i benderfynu a ydyn ni am gael gwared ar yr ased ai peidio. Nid ydyn ni o dan unrhyw rwymedigaeth i drosglwyddo eiddo, fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn ystyried cais.

Gwneud penderfyniadau

Bydd ein penderfyniad ni yn seiliedig ar nifer o ffactorau a byddwn ni'n eich cynghori yn ysgrifenedig o'r canlyniad. Os nad ydyn ni am gael gwared ar yr eiddo, byddwn ni'n dweud wrthych chi pam: Os ydyn ni'n barod i ystyried trosglwyddo ased cymunedol, byddwn ni'n dechrau'r broses gyda chi.

Efallai y bydd angen i ni hysbysebu a gwahodd cynigion a cheisiadau mynegiannau o ddiddordeb gan bartïon eraill fel rhan o'r broses.

Costau

Wrth gyflwyno cais, dylech chi gofio y byddech chi'n gyfrifol am nifer o gostau yn ogystal â rhent blynyddol os yw'ch cais chi'n llwyddiannus. Fel arfer mae'r rhain yn daladwy yn y cam cymeradwyo.

  • Os yw'r ardal yn fan agored cyhoeddus, bydd angen i ni hysbysebu'r bwriad i werthu neu brydlesu'r ased yn y wasg leol am 2 wythnos yn olynol (ar hyn o bryd, rhaid gwneud cyfraniad na ellir ei ad-dalu o £650 cyn i ni gyflwyno'r hysbyseb). Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydden ni'n eu hystyried yn ôl eu rhinweddau, cyn gwneud penderfyniad i brydlesu.
  • Efallai y bydd angen newid caniatâd cynllunio (ar hyn o bryd, y ffi ymgeisio yw £380). Byddai unrhyw gais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau gan yr adran gynllunio. Efallai yr hoffech chi gysylltu â'n hadran gynllunio cyn cyflwyno cais.
  • Efallai y bydd angen cyfreithiwr arnoch chi'ch hun a fydd yn arwain at gostau ychwanegol.
  • Efallai y bydd costau eraill mewn cysylltiad â'r cais; bydd y rhain yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw cael gwared ar yr ased a'r gwaith sy'n ofynnol. Byddai'r costau hyn yn cael eu hamlinellu mewn unrhyw delerau sydd i'w cytuno fel rhan o'r broses gwaredu.

Prisiad

Fel arfer, mae trosglwyddo ased cymunedol yn cynnwys trosglwyddo am lai na gwerth y farchnad. Fodd bynnag, rhaid i achos busnes ddangos bod buddion cymunedol yn cyfiawnhau'r gwaredu am lai na phris y farchnad

Y cais

Nodir y broses ymgeisio a'r amserlenni yn y Canllaw Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Rydyn ni'n defnyddio dull dau gam sy'n sicrhau nad yw adnoddau gwerthfawr yn cael eu gwario ar ddatblygu ac sy'n asesu achos busnes llawn nes bod meini prawf ystyried sylfaenol yn cael eu bodloni.

Anogir trafodaeth cyn ymgeisio i drafod opsiynau a chwmpas y broses.

Cydnabyddir y gallai'r dull o symud cais i drosglwyddo asedau cymunedol ymlaen fod yn wahanol ar gyfer pob ased sy'n cael ei ystyried. Mae'r polisi'n nodi proses gadarn ond hyblyg wedi'i llunio i gynnig cyfleoedd ar gyfer trafodaethau anffurfiol ar y cychwyn ac ar hyd y ffordd. Bydd y llinell amser ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol yn amrywio, a bydd yn dibynnu ar yr ased, gallu'r sefydliad cymunedol i ddarparu'r sicrwydd gofynnol a gallu'r Cyngor i baratoi ased cymunedol ar gyfer ei drosglwyddo a gwneud yr holl benderfyniadau perthnasol.

Camau Nesaf

Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol ynghylch ased penodol, cysylltwch â eiddo@caerffili.gov.uk

Os hoffech chi weld y portffolio sydd ar gael gan y Cyngor, ewch i'r dudalen argaeledd eiddo.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud ymholiad hapfasnachol am ddarn penodol o dir neu adeilad, cwblhewch y ffurflen mynegiant o ddiddordeb ar-lein. Bydd gofyn i chi uwchlwytho cynllun sy'n nodi'r ased.

Cyfeiriadau/arweiniad defnyddiol

Canllaw Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Pecyn Gwybodaeth Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Ffurflen mynegiant o ddiddordeb (word)
Ffurflen mynegiant o ddiddordeb (pdf)

Os hoffech weld y portffolio sydd ar gael gan y Cyngor ewch i'r dudalen argaeledd eiddo.