Suite 2, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen


Cyfeiriad a Lleoliad:
Suite 2, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7FN | Map

Maint: 386 troedfedd sgwâr

Y pris gofyn: £19.00 y troedfedd sgwâr y flwyddyn = £7,334 y flwyddyn

Bond: Yn cyfwerth â dau fis rhent 

Ymholiadau: Cysylltwch â Michael Williams ar 01443 864142

Ceisiadau: Cwblhewch a dychwelyd y profforma atodedig. Ar ôl ei dderbyn, cewch wybod am gyfle i weld yr eiddo.  Gofynnir i chi hefyd gyflwyno cynllun busnes/crynodeb gweithredol a thystiolaeth o sefyllfa ariannol eich busnes.

Graddfa Amser: Ceisir mynegiadau o ddiddorded ar gyfer yr eiddo hwn a bydd y Cyngor yn ymdrechu i gwblhau'r broses ymgeisio o fewn dau fis.

Y meini prawf allweddol a'r broses benderfynu: Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan y Rheolwr Cefnogi Busnes a Chyllid, uwch gynrychiolwyr o Dimau Cyllid ac Eiddo Corfforaethol y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros yr Economi, Isadeiledd, Cynaliadwyedd a Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Pennaeth Adfywio a Chynllunio.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Statws y Busnes:

  • Busnes sy’n ehangu gyda thwf swyddi (Sgôr 5)
  • Busnes Cychwyn (Sgôr 4)
  • Busnes mewnfuddsoddi presennol (Sgôr 3)
  • Busnes presennol sy'n symud i gyfuno (Sgôr 2)
  • Busnes sy’n lleihau (Sgôr 1)

Nifer y swyddi:

  • 20+ cyflogai (Sgôr 5)
  • 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
  • 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
  • 2 gyflogai (Sgôr 2)
  • 1 (perchennog gweithredwr) (Sgôr 1)

Potensial am dwf - swyddi a grëir 

  • 20+ swydd newydd (Sgôr 5)
  • 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
  • 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
  • 1 - 2 gyflogai (Sgôr 2)
  • Ni ragwelir twf (Sgôr 1)

Cysylltiadau â'r economi leol

  • Yn cydweithio â chyflogwr lleol arall (Sgôr 5)
  • Yn ategu llawer o gyflogwyr lleol ar sail ad hoc (Sgôr 4)
  • Yn cydweithio â masnachau lleol (Sgôr 3)
  • Yn gweithio i drigolion/manwerthu lleol (Sgôr 2)
  • Dim cysylltiadau â'r economi leol (Sgôr 1)

Dylech hefyd nodi y gall penderfyniad terfynol ddibynnu ar: 

  • y lefelau sŵn disgwyliedig a gynhyrchir gan eich busnes
  • eich oriau gweithredu arferol
  • nifer y symudiadau cerbydau
  • rheoli allyriadau a gwastraff
  • unrhyw addasiadau neu newidiadau i'r uned y bydd eu hangen arnoch.

Er na fyddai unrhyw un o'r uchod o reidrwydd yn eich rhwystro rhag sicrhau tenantiaeth, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor gan dimau eraill y Cyngor cyn symud ymlaen.

Dylech hefyd ystyried cynnwys y Cytundeb Tenantiaeth/Prydles/Drwydded drafft (PDF).

Sylwer na fydd y Cyngor yn ystyried unrhyw newidiad sylweddol i'r ddogfen hon oni bai fod amgylchiadau eithriadol.  Dylech nodi y bydd tâl o £250 ar gyfer llunio'r ddogfen.  

<< Gweld eiddo arall sydd ar gael
hide