Swyddfa Rithwir Tredomen
P’un a ydych chi’n dechrau busnes newydd neu’n rhedeg eich busnes o’ch cartref yn barod, gall Swyddfa Rithwir Tredomen eich helpu chi i gadw eich gorbenion yn isel gan ddarparu mantais broffesiynol i’ch busnes – heb ymrwymiad ariannol i gontractau hirdymor a phrydlesi hir.
Gallwch chi arbed costau ychwanegol staffio a rhedeg swyddfa gan ddefnyddio'r swyddfa rithwir.
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael drwy’r swyddfa rithwir:
- Opsiynau cyfeiriad busnes i'w defnyddio fel cyfeiriad eich cwmni
- Opsiynau i ddefnyddio gwasanaethau casglu post a'i anfon ymlaen
- Lleoliad busnes nodedig sydd ag enw da
- Ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd bwrdd gyda gwasanaeth llawn, Wi-Fi ar gael i'w rhentu ar gyfer cyfarfodydd busnes ar y safle, opsiynau arlwyo, parcio cwbl hygyrch ac amwynderau
- Disgownt o 10% ar holl gostau rhentu ystafell gyfarfod ac ystafell gynadledda (ac eithrio arlwyo)
Nid ydyn ni bellach yn cynnig gwasanaeth ffôn neu ffacs ar gyfer ein Swyddfa Rithwir, ond mae ein safle â staff 24/7 yn cynnig gwasanaeth i gael eich post unrhyw bryd.
Mae'n haws nag erioed o'r blaen dod yn ddefnyddiwr y gwasanaeth hwn. I dalu, mae gennym ni ddau ddewis. Mae Opsiwn 1 yn daliad blynyddol o £396 gan gynnwys TAW (sy’n golygu mis o wasanaeth am ddim). Neu, gallwch chi ddewis talu drwy ddebyd uniongyrchol bob mis, sy’n costio £36 gan gynnwys TAW, ac mae gennych chi'r opsiwn i ganslo gyda rhybudd o 1 mis ar unrhyw adeg.
Nid ydyn ni bellach yn cynnig gwasanaeth ffôn neu ffacs ar gyfer ein Swyddfa Rithwir.
Am gais e-bostiwch DesgGymorthTenantiaid@caerffili.gov.uk.