Trwydded siop anifeiliaid anwes
I redeg busnes sy’n gwerthu anifeiliaid anwes mae arnoch angen trwydded. Mae hyn yn cynnwys unrhyw werthiannau masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy’n gwerthu anifeiliaid dros y we.
Mae’n bosibl y byddwn yn awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd milfeddygol i archwilio mangreoedd trwyddedig.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr am drwydded siop anifeiliaid anwes beidio â bod wedi’u hanghymhwyso rhag cadw siop anifeiliaid anwes. Rhaid talu ffi, a bennir gan yr Awdurdod Lleol, wrth gyflwyno’r cais.
Amodau’r drwydded
Siopau Anifeiliaid Anwes – Amodau’r Drwydded (PDF 135kb)
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar lein.
Gwneud cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid anwes
Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)
Y broses gwerthuso cais
Rhaid inni ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:
- y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, goleuo, gwyntyllu a glendid
- y bydd digon o fwyd a diod yn cael ei ddarparu i’r anifeiliaid ac yr ymwelir â hwy o fewn ysbeidiau addas
- na chaiff unrhyw famaliaid eu gwerthu’n rhy ifanc
- y cymerir camau i atal clefydau rhag lledaenu ymysg yr anifeiliaid
- bod darpariaethau digonol ar gyfer tân ac argyfyngau ar waith
Gellir atodi amodau i drwydded er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r uchod.
Cydsyniad mud
Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 28 diwrnod gallwch weithredu fel pe bai’ch cais wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r cyfnod yn dechrau pan ddaw’r holl ddogfennau i law a phan gaiff y ffi berthnasol ei thalu.