Tystysgrif mangre clwb

Mae clybiau’n sefydliadau lle mae aelodau wedi dod ynghyd at ddibenion cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol penodol ac wedyn uno i brynu alcohol mewn swmp fel aelodau o’r sefydliad, i’w gyflenwi yn y clwb. Yn gyffredinol, maent yn cynnwys clybiau Llafur, Ceidwadol a Rhyddfrydol, y Lleng Brydeinig Frenhinol, clybiau eraill i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, clybiau gweithwyr, sefydliadau lles glowyr a chlybiau cymdeithasol a chwaraeon.

Mae tystysgrif mangre clwb yn awdurdodi’r clwb cymhwysol i gyflawni gweithgareddau clwb cymhwysol, megis cyflenwi alcohol a darparu adloniant rheoledig. 

Amodau a meini prawf

Dim ond clybiau cymhwysol a gaiff ddal tystysgrifau mangre clwb. Er mwyn bod yn glwb cymhwysol, rhaid bodloni rhai amodau penodol:

  • ni chaiff person ei dderbyn yn aelod neu ei dderbyn fel ymgeisydd ar gyfer aelodaeth i unrhyw un o freintiau aelodaeth, heb fwlch o ddau ddiwrnod o leiaf rhwng ei enwebiad neu ei gais am aelodaeth a chymeradwyo ei aelodaeth
  • rhaid i reolau’r clwb ddatgan na chaiff y rheiny sy’n dod yn aelodau heb enwebiad neu gais fanteisio ar freintiau aelodaeth am o leiaf dau ddiwrnod rhwng iddynt ddod yn aelodau a chael mynediad i’r clwb
  • bod y clwb yn cael ei sefydlu a’i gynnal yn ddidwyll
  • bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • na chyflenwir alcohol i aelodau yn y fangre ond gan neu ar ran y clwb.

Ni ddylid drysu rhwng clybiau cymhwysol a chlybiau perchenogol, sy’n glybiau a redir yn fasnachol gan unigolion, partneriaethau neu fusnesau er elw. Mae angen trwydded mangre ar y rhain ac nid ydynt yn glybiau cymhwysol. 

Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol o ran cyflenwi alcohol:

  • bod prynu alcohol i’r clwb a chyflenwi alcohol gan y clwb yn cael eu rheoli gan aelodau o’r clwb sydd dros 18 oed ac sydd wedi’u hethol i wneud hynny gan yr aelodau
  • nad yw unrhyw un, ar draul y clwb, yn cael unrhyw gomisiwn, canran neu daliad tebyg arall mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
  • nad oes unrhyw drefniadau i unrhyw un gael budd ariannol o gyflenwi alcohol, ar wahân i unrhyw fudd i’r clwb cyfan neu i unrhyw un yn anuniongyrchol o’r cyflenwi sy’n creu elw o redeg y clwb

Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau cyfeillgar cofrestredig yn gymwys os yw’r gwaith o brynu alcohol i’r clwb a chyflenwi alcohol gan y clwb yn cael ei wneud o dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.

Gellir ystyried sefydliadau lles glowyr perthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol yw un a reolir gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf dau draean o bobl sydd wedi’u penodi neu eu dyrchafu gan un neu ragor o weithredwyr trwyddedig o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a chan un neu ragor o sefydliadau sy’n cynrychioli cyflogeion pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu fwrdd lle na all y bwrdd fod wedi’i gyfansoddi fel uchod ond ei fod yn cynnwys o leiaf dau draean o aelodau oedd wedi’u cyflogi neu sy’n cael eu cyflogi mewn neu o amgylch pyllau glo, a hefyd gan bobl a benodwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gan gorff oedd â swyddogaethau tebyg o dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Pa un bynnag, rhaid i fangre’r sefydliad gael ei dal ar ymddiriedolaeth, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais am dystysgrif mangre clwb newydd

Dweud wrthym am fân newid i’ch mangre neu glwb presennol 

Dweud wrthym am newid i’ch manylion neu reolau clwb presennol

Dweud wrthym am newid i’ch mangre clwb presennol 

Adnewyddu eich tystysgrif mangre clwb bresennol

Cysylltwch â ni os oes arnoch angen copi papur o’r ffurflen.

Mae’r amser a gymerir yn dibynnu ar bob cais unigol. Fodd bynnag fel arfer mae’r cyfnod yn amrywio o un mis i dri mis, ond gallai gymryd mwy o amser.

Ymgynghori

Pan gaiff cais ei gyflwyno, bydd cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod yn dilyn. Mae hyn yn rhoi amser i awdurdodau cyfrifol ac unrhyw unigolyn, corff neu fusnes sy’n teimlo y gallai’r cais danseilio un neu ragor o’r amcanion trwyddedu gyflwyno sylwadau. 

Cydsyniad mud

Mae cydsyniad mud yn berthnasol i geisiadau mangre clwb dim ond pan na ddaw unrhyw wrthwynebiadau i law. Mae hyn yn golygu, os nad ydych wedi clywed oddi wrth y gwasanaethau trwyddedu ymhen 2 fis ar ôl cyflwyno’r cais, gallwch dybio bod y dystysgrif wedi’i rhoi yn unol â’r cais. Os daw  gwrthwynebiadau i law oddi wrth awdurdodau cyfrifol a/neu unrhyw bobl eraill, rhaid ichi aros i’r cyngor benderfynu ar y cais cyn y gellir cyflawni unrhyw weithgareddau. Nodwch y bydd y gwasanaethau trwyddedu yn cysylltu bob amser.

Cysylltwch â ni