Trwydded bersonol

Gall deiliaid trwydded bersonol awdurdodi gwerthu alcohol ar safleoedd trwyddedig at y diben hwnnw a gall hefyd gael ei gyflogi fel y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (GED) mewn mangre o'r fath. Dylech wneud cais am drwydded bersonol i'r Cyngor yn yr ardal rydych yn byw fel arfer.

Bydd trwyddedau personol yn parhau mewn grym, oni bai y caiff eu fforffedu, eu hatal, eu dirymu neu’u hildio. Gall deiliad trwydded bersonol hefyd wasanaethu hyd at uchafswm o 50 rhybudd digwyddiad dros dro mewn blwyddyn.

Bydd angen trwydded bersonol arnoch:

  • os ydych yn cael eich dynodi fel y goruchwyliwr eiddo ar drwydded mangre ar gyfer mangre lle mae alcohol yn cael ei werthu;
  • os ydych am werthu alcohol o dan drwydded eiddo neu awdurdodi eraill i werthu alcohol dan drwydded mangre;
  • os ydych am ddefnyddio mwy na phum hysbysiad digwyddiad dros dro (HDDDau) mewn blwyddyn galendr.

I fod yn gymwys rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu drosodd;
  • fod â chymhwyster trwyddedu achrededig (mae gan wefan y Swyddfa Gartref rhestr o Ddarparwyr Cymhwyster Trwydded Achrededig Bersonol);
  • fod heb fforffedu trwydded bersonol o fewn y pum mlynedd flaenorol;
  • fod heb unrhyw gollfarn(au) sydd heb ei darfod ar gyfer trosedd ‘berthnasol’, trosedd ‘mewnfudo’, trosedd ‘estron’ neu gosb mewnfudo (gweler y nodiadau Cyfarwyddyd am fanylion). Os yw'r ymgeisydd ag euogfarn nad yw wedi darfod, bydd yr Heddlu yn cael gwybod a byddant yn ystyried a fydd y troseddau yn tanseilio’r Amcan Atal Troseddau a chyhoeddi hysbysiad o wrthwynebiad i'r awdurdod o fewn 14 diwrnod os teimlir y mae'n ei wneud.  Mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu wedyn cynnal gwrandawiad i benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded;
  • fod heb dystysgrif euogfarn droseddol oddi wrth Wasanaeth Datgan yr Alban, neu wiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Adnabod Cenedlaethol.
  • fod â’r hawl i weithio yn y DU ac nid yn ddarostyngedig i amod sy’n eich atal rhag gwneud gwaith yn ymwneud â darparu gweithgaredd trwyddedadwy.

Gofynion Deddf Mewnfudo 2016

Mae awdurdodau trwyddedu yn awr o dan ddyletswydd i wneud gwiriadau mewnfudo o ran holl ymgeiswyr am drwyddedau personol.  Gofynnir i ymgeiswyr felly cyflwyno copïau o'r ddogfennaeth ragnodedig er mwyn profi eu statws mewnfudo a hawl i weithio.  Mae manylion dogfennau derbyniol yn cael eu rhestru yn yr adran nodiadau ar y ffurflen gais.

Tra bod awdurdodau trwyddedu yn gallu i roi trwyddedau i bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo a dim ond ag amser cyfyngedig i aros yn y DU, bydd eu trwydded yn annilys pan fydd eu caniatâd i fod yn y DU yn dod i ben.  Mae cais a wneir gan rywun sydd wedi'i anghymhwyso oherwydd eu statws mewnfudo, yn annilys a rhaid ei wrthod

Newid enw neu gyfeiriad

Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol ar hyn o bryd ac wedi newid eich enw neu'ch cyfeiriad, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni. Bydd angen i chi ddychwelyd eich trwydded a bathodyn presennol a chaiff trwydded ddiwygiedig ei chyhoeddi i chi. Codir ffi am hyn.

Ffioedd

Cliciwch yma am restr lawn o ffioedd trwydded

Sut i wneud cais

Nodiadau cyfarwyddyd i ymgeiswyr (PDF)

Dylid cyflwyno wrth law, neu bostio ffurflenni wedi'u cwblhau i'r Awdurdod Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Cysylltwch â ni os oes angen copi papur o'r ffurflen.

Mae'n rhaid i ni benderfynu ar y cais o fewn tri mis.

Ymweld â'n swyddfeydd

Mae'r isadran drwyddedu yn gweithredu system apwyntiad yn unig wrth ymweld â'u swyddfeydd. Os ydych yn dymuno gwneud apwyntiad neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â ni.

Menter Twyll Genedlaethol: Mae dyletswydd ar yr Awdurdod hwn i ddiogelu’r arian cyhoeddus mae’n ei weinyddu. I’r perwyl hwnnw mae’n bosibl y bydd yn defnyddio’r wybodaeth a rowch ar eich ffurflen gais i atal a chanfod twyll. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn. Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth am y Fenter Twyll Genedlaethol.
Cysylltwch â ni