Cofrestrwch eich diddordeb

Os ydych chi am gael eich hysbysu am gynnydd y CDLl, bydd angen i chi gofrestru'ch diddordeb a rhoi eich caniatâd i gael eich cynnwys ar ein Cronfa Ddata Ymgynghori CDLl. 

Ar 25 Mai 2018, daeth y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau newydd ar sut y gall sefydliadau gadw a defnyddio eich data personol a diffinio'ch hawliau mewn perthynas â'r data hwnnw. 

O ganlyniad i'r GDPR, ni allwn gadw manylion cyswllt yr unigolion hynny a oedd ar y cronfeydd data Cynllun Datblygu Lleol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer y CDLl mabwysiedig a'r CDLl Newydd Hyd at 2031.

Os ydych chi'n dymuno bod yn rhan o baratoi'r cynllun newydd, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r ffurflen isod. Rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon hyd yn oed os cafodd eich manylion eu cynnwys ar fersiynau blaenorol o'r gronfa ddata a'ch bod wedi derbyn gohebiaeth ar y CDLl o'r blaen.  

Cofrestrwch eich diddordeb

Mae Hysbysiad Preifatrwydd wedi'i baratoi ar gyfer cronfa ddata'r CDLl. Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi esboniad o sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth gan gynnwys:

  • Pam mae ei hangen arnom
  • Gyda phwy y byddwn yn ei rhannu
  • Am ba mor hir y bydd yn cael ei chadw 

Gellir dod o hyd i'r Hysbysiad Preifatrwydd yma

Ymgynghoriadau

Ewch i'r adran i weld holl ymgynghoriadau ar yr CDLl.

Cysylltwch â ni