Enwi strydoedd a rhifo
Rydyn ni’n gyfrifol am enwi pob stryd ac am rifo neu enwi eiddo o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ffeithlen: Cyfeiriadau, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd mewn llywodraeth leol
Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol – Set data unigryw
I gael rhagor o wybodaeth am enwi strydoedd a rhifo, e-bostiwch llpg@caerphilly.gov.uk.
Noder: Os ydych chi'n cyflawni cynllun sy'n gofyn am enwi strydoedd, ceisiwch seilio unrhyw enwau ar enwau hanesyddol yr ardal lle mae'r gwaith datblygu'n digwydd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd ar y we sydd â'r nod o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru, a thynnu sylw at eu pwysigrwydd. Ewch i:
https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk