Ap COVID-19 y GIG – creu cod QR coronafeirws y GIG ar gyfer eich lleoliad

Mae busnesau ledled Cymru a Lloegr, fel tafarndai, bwytai, salonau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i arddangos posteri cod QR y GIG yn eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd yn y lleoliadau hyn.
Dylech greu ac arddangos cod QR os ydych:
- yn fusnes, yn fan addoli neu’n sefydliad cymunedol â lleoliad ffisegol sy’n agored i’r cyhoedd
- yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad ffisegol
Os oes gennych fwy nag un lleoliad, mae angen i chi greu cod QR ar wahân ar gyfer pob lleoliad.
Mae cod QR y GIG a’r swyddogaeth gofrestru yn ychwanegol at y mesurau presennol. Bydd angen i leoliadau yng Nghymru sydd â gofyniad cyfreithiol i gasglu a chadw cofnod o ymwelwyr wneud hynny o hyd.
Dylai lleoliadau lawrlwytho’r codau QR o wefan GOV.UK.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan GOV.Wales.