Cyfleoedd manwerthu Caerffili
Caerffili yw’r dref fwyaf yn y fwrdeistref sirol ac yn ganolfan is-ranbarthol.
Mae’r dalgylch ar gyfer y dref yn cynnwys Senghenydd, Abertridwr, Llanbradach, Bedwas, Tretomos, Machen, Rhydri, Tŷ’n-y-coedcae a Draethen. Mae gan yr ardal hon boblogaeth o tua 53,000.
Mae Caerffili yn gyrchfan twristiaeth boblogaidd, oherwydd presenoldeb Castell Caerffili, sef yr ail gaer fwyaf yn Ewrop sydd wedi ei lleoli yng nghanol y dref. Mae gan Gaerffili ddwy ardal siopa, ill dau yn darparu math gwahanol o siopa.
Mae Canolfan Siopa Cwrt y Castell, sydd yn uniongyrchol gyferbyn â’r castell, yn gartref i amrywiaeth eang o aml-fanwerthwyr gan gynnwys: Morrisons, Argos, WH Smith, Boots a Costa Coffee. Mae Heol Caerdydd yn ardal siopa mwy traddodiadol sy’n cynnwys llawer o’r manwerthwyr annibynnol yng Nghaerffili, bob yn ail ag enwau cyfarwydd y stryd fawr, gan gynnwys: Peacocks, Superdrug, Sports Direct ac Iceland.
Mae trigolion lleol ac ymwelwyr wedi elwa o gyfleuster llyfrgell a chymunedol newydd yng nghalon ganol y dref. Mae’r cyfleuster modern, gwerth miliynau o bunnoedd, wedi cael ei rhan-ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ac yn galluogi mynediad hawdd i ystod eang o wasanaethau Cyngor yn ychwanegol at lyfrgell fodern.
Mae agosrwydd Caerffili i faestrefi gogleddol Caerdydd yn caniatáu i’r dref cael ei marchnata i sylfaen cwsmeriaid ehangach o lawer ac mae ei chymeriad hanesyddol yn ei gwneud yn ddewis amgen gwirioneddol i brofiad y ddinas fawr.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech siarad â rhywun am gyfleoedd manwerthu yn Nhref Caerffili, neu os hoffech gopi o’r Portffolio Buddsoddi a’r adroddiadau ystadegol annibynnol, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol y Dref.
