Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Y Cyngor    Y lluoedd arfog    Cronfa Cyfamod

Cronfa Cyfamod

Mae Llywodraeth y DU (Y Weinyddiaeth Amddiffyn) wedi sefydlu Cronfa Cyfamod er mwyn dosbarthu £10 miliwn y flwyddyn yn barhaus o 2015/2016 ymlaen, er mwyn ariannu prosiectau sy’n cefnogi amcanion y Cyfamod Lluoedd Arfog ac yn benodol i ariannu prosiectau sy’n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â Grŵp Cyfeirio Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r Gronfa Cyfamod bellach wedi ei chyfarwyddo i sefydlu etifeddiaeth barhaol ar gyfer gwaith ac egwyddorion y Cyfamod Lluoedd Arfog. Felly mae’n bwysig bod y cyllid yn cael ei ganolbwyntio a’i gyfeirio’n deg. Nodwyd pedair thema gyffredinol gan y Grŵp Cyfeirio y mae’n rhaid i’r Gronfa Cyfamod eu hystyried yn awr, ac yn y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau.

Y rhain yw:

  • Gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn wasanaethau craidd i gyn-filwyr;
  • Dileu’r rhwystrau i fywyd teuluol;
  • Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaeth i’r rhai sydd angen help;
  • Mesurau i integreiddio cymunedau’r Lluoedd Arfog a sifiliaid a chaniatáu i gymunedau’r Lluoedd Arfog gyfranogi fel dinasyddion.

Bydd y Gronfa Cyfamod yn ymgynghori â’r Grŵp Cyfeirio ar flaenoriaethau a fydd yn cefnogi un neu fwy o’r themâu yn flynyddol.

Bydd yr oruchwyliaeth strategol a gwneud penderfyniadau o ran derbyn y cyllid yn cael ei wneud gan Banel y Gronfa Cyfamod sy’n cynnwys aelodau a benodwyd yn briodol.

Bydd gweithrediad a rheolaeth dydd i ddydd y Gronfa Cyfamod yng ngofal tîm grantiau gweithredol.

Bydd y Gronfa Cyfamod yn rhoi grantiau (cyfalaf a/neu refeniw) i sefydliadau mewn ymateb i geisiadau, a bydd y grantiau yn cael eu dyrannu yn unol â meini prawf clir, gosodedig a thryloyw yn dilyn proses o wneud penderfyniadau a gytunir ymlaen llaw gyda Phanel y Gronfa Cyfamod.

Amserlen ar gyfer Ariannu Cronfa Cyfamod

Mae'r blaenoriaethau ariannu ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 fel a ganlyn: -

  • Cyfamod y Lluoedd Arfog: grantiau lleol a datblygiad digidol
  • Cymunedau Cadoediad a Lluoedd Arfog: cefnogi cymunedau lleol i ystyried Cyfamod y Lluoedd Arfog a'i berthnasedd heddiw yng nghyd-destun coffau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Cyhoeddir blaenoriaethau pellach yn y misoedd nesaf.

Mae dau lwybr ariannu:

  • grantiau bach, ar gyfer ceisiadau hyd at uchafswm o £20,000 a
  • grantiau mawr, ar gyfer ceisiadau rhwng £20,001 a £500,000.

Bydd y Bwrdd Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol, a reolir gan Bencadlys Brigâd 160 y Troedfilwyr yn Aberhonddu, yn derbyn ceisiadau lleol o Gymru ar gyfer ymgynghoriad a thrafodaeth ymysg fforymau Lluoedd Arfog rhanbarthol a lleol er wyn pennu addasrwydd ac angen.

Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili

Mae gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili gynrychiolaeth gan lawer o sefydliadau sy’n ystyried amrywiaeth o fesurau i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog leol (gan gynnwys Cyn-filwyr y Lluoedd, Personél sy’n Gwasanaethu a milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd) o fewn ein cymunedau lleol ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae aelodau’r Sector Gwirfoddol sy’n rhan o Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:- y Lleng Brydeinig, SSAFA, Change Step, Alabaré, Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Tai First Choice, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Sefydliad St Loye, Hire a Hero, RAFA, y Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn (DMWS), Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin.

Mae aelodau eraill o Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys: -  Ysbyty Maes 203 (Cymru), Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Sgwadron Gynorthwyol Brenhinol 614 A F, Veterans UK (a elwid gynt yn SPVA), RFCA, GIG Cyn-filwyr Cymru, y Gwasanaeth Prawf, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Fforwm Busnes Caerffili, Ffederasiwn y Busnesau Bach, Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Chaerffili, sydd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a chynghori ein cymuned y Lluoedd Arfog.

Gan fod Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnig arbenigedd lleol o’r fath, mae’n bosib y byddai o fudd i unrhyw grŵp neu sefydliad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n dymuno cyflwyno cais am gyllid i’r Gronfa Cyfamod, drafod y cais gyda’r Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili lleol. Gallai hyn gryfhau’r cais, gan y bydd yn mynd yn ei flaen i’r Bwrdd Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol.

Cysylltwch â:-   

Lisa Rawlings
Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Uned Polisi
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Ffôn: 01443 864447 / 07717 467341
Email: armedforces@caerphilly.gov.uk

Bydd y penderfyniad terfynol ar addasrwydd ceisiadau yn cael ei wneud gan Fwrdd Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn cyngor ac adborth gan y Byrddau Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol.

Canllawiau a Ffurflenni

Mae prif dudalen y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Ariannu’r Cyfamod ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/covenant-fund  

Arolygon ar-lein yw’r ffurflenni cais. Wrth i chi gwblhau eich cais dylech gyfeirio at y canllawiau grantiau bach neu fawr perthnasol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y siawns gorau o lwyddo. Os hoffech weld rhestr o’r cwestiynau a ofynnir ar bob un o’r ffurflenni, gallwch ddod o hyd iddynt ar y dudalen canllawiau.

Canllaw grantiau bach y Gronfa Cyfamod (PDF)

Canllaw grantiau mawr y Gronfa Cyfamod (PDF)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sydd heb eu cynnwys yn y canllawiau neu’r ‘cwestiynau cyffredin’, yna peidiwch oedi rhag cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn trwy anfon e-bost at COVENANT-GrantTeamMailbox@mod.uk.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl