Hawliadau yswiriant priffyrdd a throetffyrdd

Os ydych chi’n ystyried gwneud hawliad yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am ddifrod neu anaf a gafwyd wrth ddefnyddio’r priffyrdd a throetffyrdd dylech gofio bod 84% o’r hawliadau yn ein herbyn yn aflwyddiannus, ar gyfartaledd.

Mae dyletswydd arnom i ddiogelu arian cyhoeddus, ac mae Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi inni amddiffyniad statudol yn erbyn hawliadau, ar yr amod y gallwn brofi ein bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gynnal a chadw’r ffordd neu balmant.

Nid oes gennych hawl awtomatig i iawndal dim ond oherwydd eich bod wedi dioddef difrod neu anaf o ganlyniad i ddigwyddiad.

Sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am namau ar briffyrdd a throetffyrdd

Ni sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r ffyrdd a phalmentydd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae dyletswydd statudol arnom o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i gyflawni archwiliadau diogelwch rheolaidd o fewn cyfnodau amrywiol er mwyn canfod unrhyw ffordd neu balmant y mae angen ei atgyweirio.

Sefydliadau eraill megis Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru sy’n gyfrifol am rai ffyrdd. Neu gallai problemau gyda ffyrdd neu balmentydd fod wedi cael eu hachosi gan:

  • gontractwyr sy’n gweithio ar ein rhan
  • cwmnïau cyfleustodau
  • unigolion preifat

Mae mwy o wybodaeth am ein harchwiliadau ar gael yn ein Strategaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd.

Ni allwn ymdrin â hawliadau ar ran sefydliadau eraill neu unigolion, ond byddwn yn anfon eich hawliad ymlaen atynt, os rhoddwch ganiatâd inni wneud hynny.

Profi esgeuluster

Er mwyn gwneud hawliad llwyddiannus bydd angen ichi brofi y buom yn esgeulus a’n bod wedi methu yn ein dyletswydd i gynnal a chadw’r briffordd neu’r droetffordd yn unol â safon briodol.

Mae ein Strategaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd yn nodi ein dull o ddarparu’r gwasanaeth cynnal a chadw priffyrdd yn unol â’n dyletswyddau statudol.  

Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth bod y canlynol yn wir ar adeg y digwyddiad:

  • roedd nam yn bodoli ar ffordd neu balmant sy’n cael ei gynnal a’i gadw gennym ni
  • roedd y nam yn un a gâi ei ystyried yn beryglus
  • y nam oedd achos uniongyrchol y digwyddiad, a’ch bod wedi dioddef anaf neu golled o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad

Os gallwch brofi unrhyw un o’r uchod, bydd angen inni ymchwilio a oedd y nam yn bodoli oherwydd ein methiant i gyflawni ein dyletswyddau statudol. Nid yw’r ffaith ein bod yn ymchwilio yn golygu y bydd hawliad yn llwyddiannus nac y caiff taliad ei wneud. 

Penodi cynrychiolydd

Mae gennych hawl i ofyn am gyngor proffesiynol neu gyfreithiol annibynnol ar unrhyw gam o’ch hawliad. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrin â phob hawliad am iawndal yn yr un ffordd, ac ni fydd cyfarwyddo cyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol yn symud eich hawliad ymlaen yn gynt.

Os ydych chi’n dewis penodi trydydd parti i weithredu ar eich rhan, byddwn yn gohebu â hwnnw’n uniongyrchol.

Os ydych chi’n gweithredu ar ran oedolyn arall, bydd arnom angen datganiad ysgrifenedig wedi’i lofnodi oddi wrth yr hawlydd, yn cadarnhau ei fod yn fodlon ichi wneud hynny.

Atal twyll

Mae sawl math o dwyll yswiriant, o chwyddo gwerth hawliadau dilys i ffugio digwyddiadau neu golledion mewn ymgais i gael arian.

Rydym yn cymryd POB achos o dwyll yswiriant o ddifrif, a byddwn yn gwirio pob hawliad yn erbyn gwahanol gronfeydd data er mwyn atal twyll. Byddwn yn gofyn ichi ddarparu tystiolaeth am bob hawliad a wnewch. Trwy gyflwyno hawliad inni rydych yn cytuno i’ch manylion gael eu rhannu gyda sefydliadau eraill er mwyn cyflawni rhagor o wiriadau.

Caiff unrhyw hawliad twyllodrus ei gyfeirio at yr heddlu er mwyn i achos troseddol gael ei ystyried.

Atgyweirio difrod i eiddo

Os ydych chi wedi gwneud hawliad am ddifrod i eiddo rhaid ichi leihau’ch colledion i’r eithaf a threfnu i unrhyw atgyweiriadau gael eu cwblhau cyn gynted ag sy’n bosibl. 

Dylech gymryd ffotograffau o’r difrod ar gyfer pob hawliad.

Rhaid ichi gadw copi o bob amcangyfrif ac anfoneb am waith atgyweirio gan y bydd angen y rhain arnom os bydd eich hawliad yn llwyddo.

Gwneud hawliad

Cyn ichi wneud hawliad, rhaid ichi roi gwybod inni am y nam. Ewch i’n hadran rhoi gwybod am broblem gyda ffordd neu balmant

Ar ôl ichi roi gwybod inni cewch rif ymholiad y bydd angen ichi ei ddarparu ar eich ffurflen hawlio.

Lawrlwytho ffurflen hawlio yswiriant (PDF)

Beth sy’n digwydd wedyn?

Penderfynir ar bob hawliad fesul achos unigol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n ymchwilio i’ch hawliad yn uniongyrchol. Byddwn:

  • yn ystyried y wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi
  • yn gofyn am adroddiadau sydd wedi cael eu gwneud ynghylch y nam ac yn eu hystyried
  • yn gofyn am ein cofnodion archwilio a chynnal a chadw ar gyfer yr ardal ac yn eu hystyried

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a oedd y nam neu’r digwyddiad yn ganlyniad uniongyrchol i unrhyw esgeuluster gan neu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn y pen draw, dim ond llys a all benderfynu a yw’r nam yn beryglus ai peidio, ac a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn esgeulus.

Os ydym yn credu na fyddai’ch hawliad yn llwyddo mewn llys, byddwn yn gwrthod yr hawliad ac yn dweud wrthych yn ysgrifenedig beth yw ein rhesymau. 

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae’r amser y bydd yn ei gymryd i gwblhau achos yn dibynnu ar y math o hawliad a pha mor gymhleth yw e. Fodd bynnag, fel arfer byddwch yn cael penderfyniad ynghylch atebolrwydd cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais gael ei gyflwyno yn achos hawliad am ddifrod yn unig.

Ar ôl i’ch hawliad gael ei roi i swyddog trin hawliadau, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn cadarnhau’r adeg hwyraf y gallwch ddisgwyl gael eich penderfyniad. Efallai y gofynnir rhagor o gwestiynau ar yr adeg hon, a bydd ateb y rhain mor llawn ag sy’n bosibl yn osgoi oedi i’r ymchwiliadau.

Herio penderfyniad

Dim ond llys a all benderfynu a yw’r nam yn beryglus ai peidio, ac a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn esgeulus. Am y rheswm hwn, yn anffodus, nid yw ein gweithdrefn gwyno gorfforaethol yn berthnasol i hawliadau yswiriant. Rhaid i unrhyw ymholiadau neu heriau i'n penderfyniad atebolrwydd gael eu gwneud yn ysgrifenedig a'u hanfon at:

Yr Adran Yswiriant a Rheoli Risg
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG
Neu drwy e-bost at Insurance@caerphilly.gov.uk

Ar ôl cael gohebiaeth gennych chi, byddwn ni'n adolygu'ch cais ac yn cadarnhau'r canlyniad yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na dderbynnir ein penderfyniad, yna argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn dechrau unrhyw gamau cyfreithiol, i sicrhau eich bod yn cael cyngor proffesiynol ar ragolygon eich hawliad yn y llys, ac i osgoi bod yn gyfrifol am gostau cyfreithiol na allwch eu hadfer.

Hawliadau gan gyfreithwyr trydydd parti a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill

Rhaid i hawliadau anaf personol am ddamweiniau sydd yn digwydd ar ôl 31 Gorffennaf 2013 gael eu cyflwyno gan ddefnyddio Porth Hawliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn unol â’r Protocol Cyn-achos ar gyfer Hawliadau Anaf Personol Gwerth Isel (Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus).

Dylech sicrhau bod pob hawliad yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei gyflwyno inni’n uniongyrchol. Rydym yn ddigolledwr cofrestredig ar y Porth a gellir dod o hyd inni trwy chwilio am ‘Caerphilly County Council’ o fewn manylion digolledwyr, neu drwy roi i mewn ein ID ar y Porth: G00281.

Ar gyfer hawliadau Atebolrwydd Personol Priffyrdd, rhaid rhoi manylion y diffynnydd i mewn fel a ganlyn:

Cyngor Bwrdeistref Caerffili
Tŷ Penallta 
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG