Hawliadau yswiriant atebolrwydd Tai 

Os ydych chi'n ystyried hawlio yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am ddifrod neu anaf a gafwyd yn eich tŷ cyngor, o ganlyniad i faglu, llithro neu syrthio o fewn ffin eich eiddo neu am ddifrod a achoswyd i'ch eiddo personol gan staff y cyngor, bydd angen i chi sicrhau y gallwch brofi bod y cyngor wedi bod yn esgeulus. Nid yw'r ffaith eich bod wedi dioddef niwed neu anaf o ganlyniad i ddigwyddiad yn rhoi hawl awtomatig i chi gael iawndal.

Profi esgeulustod

I wneud cais llwyddiannus, bydd angen i chi brofi ein bod wedi bod yn esgeulus.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy'n dangos, ar adeg y digwyddiad:

  • Roedd arnom ddyletswydd gofal i chi
  • Rydym wedi torri'r ddyletswydd gofal honno
  • Y rheswm dros dorri'r ddyletswydd gofal oedd achos uniongyrchol y digwyddiad, a'ch bod wedi dioddef anaf, colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol o dorri'r ddyletswydd gofal 

Os gallwch brofi unrhyw un o'r uchod, yna bydd angen i ni ymchwilio a oedd y torri dyletswydd wedi digwydd oherwydd ein methiant i lynu wrth ein dyletswyddau statudol. Nid yw'r ffaith ein bod yn ymchwilio yn golygu y bydd hawliad yn llwyddiannus neu y gwneir taliad. 

Penodi cynrychiolydd

Mae gennych yr hawl i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol annibynnol unrhyw bryd yn ystod eich hawliad. Fodd bynnag, rydym yn delio â phob hawliad am iawndal yn yr un modd, ac ni fydd penodi cyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol yn symud eich hawliad ymlaen yn gynt.

Os ydych yn dewis penodi trydydd parti i weithredu ar eich rhan, byddwn yn gohebu â nhw'n uniongyrchol.

Os ydych yn gweithredu ar ran oedolyn arall, bydd arnom angen datganiad ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan yr hawlydd, gan gadarnhau ei fod yn fodlon i chi wneud hynny.

Atal twyll

Gall twyll yswiriant gymryd sawl ffurf, o orbwysleisio gwerth hawliadau dilys i ffugio digwyddiadau neu golledion i geisio cael arian.

Rydym yn ystyried POB twyll yswiriant yn ddifrifol iawn, a byddwn yn gwirio pob hawliad yn erbyn amrywiol gronfeydd data i atal twyll. Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer pob hawliad a wneir. Drwy gyflwyno hawliad i ni, rydych yn cytuno y gellir rhannu eich manylion â sefydliadau eraill i wneud gwiriadau pellach.

Bydd unrhyw hawliad twyllodrus yn cael ei gyfeirio at yr heddlu er mwyn ystyried camau troseddol.

Trwsio difrod i eiddo

Os ydych wedi gwneud cais am ddifrod i eiddo, mae'n rhaid i chi gadw eich colledion mor isel â phosibl a threfnu i unrhyw atgyweiriadau gael eu cwblhau cyn gynted â phosibl.

Dylech dynnu lluniau o'r difrod ar gyfer pob hawliad.

Mae'n rhaid i chi gadw copïau o'r holl amcangyfrifon ac anfonebau ar gyfer gwaith atgyweirio oherwydd y bydd eu hangen arnom os bydd eich hawliad yn llwyddiannus.

Gwneud hawliad

Cyn i chi wneud hawliad, os oes gennych yswiriant cynnwys tenantiaid, ystyriwch a fyddai hawliad yn erbyn y polisi hwnnw'n fwy addas. Ar gyfer hawliadau atebolrwydd am ddifrod yn unig, telir iawndal ar Sail Indemniad yn unig, sy'n golygu y cewch eich digolledu i'ch rhoi yn ôl i'r sefyllfa yr oeddech ynddi cyn y golled, heb welliant. NID YW HWN YN SETLIAD LLE MAE RHYWBETH NEWYDD YN DISODLI RHYWBETH HEN, a byddwch yn derbyn gwerth marchnad ail-law cyfredol ar gyfer eitem wedi'i difrodi. Mae rhai digwyddiadau, fel pibellau wedi'u torri, ac ati, yn cael eu cynnwys o dan eich yswiriant cynnwys tenantiaid ac mae'r setliad yn fwy tebygol o fod yn setliad lle mae rhywbeth newydd yn disodli rhywbeth hen, felly gallai hynny fod yn fwy o fudd i chi. Yn ogystal, yn gyffredinol ymdrinnir â hawliadau drwy yswiriant cynnwys tenantiaid yn llawer cyflymach.

Os hoffech barhau i wneud hawliad atebolrwydd, defnyddiwch y ffurflen isod.

  • Mae'r ffurflen hawlio yn cael ei chyfieithu ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, cysylltwch â ni am ffurflen. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Penderfynir ar bob hawliad fesul achos.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio i'ch cais yn uniongyrchol. Byddwn yn:

  • ystyried y wybodaeth rydych chi wedi'i darparu
  • gofyn am ac ystyried adroddiadau a wnaed ynglŷn â'r diffyg/difrod a achoswyd
  • gofyn am ac ystyried cofnodion archwilio a chynnal yr eiddo

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a oedd y nam neu'r digwyddiad o ganlyniad uniongyrchol i unrhyw esgeulustod gan, neu ar ran, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn y pen draw, dim ond llys sy'n gallu penderfynu a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn esgeulus ai peidio.

Os credwn na fyddai'ch hawliad yn llwyddiannus yn y llys, byddwn yn gwrthod yr hawliad ac yn rhoi gwybod i chi am ein rhesymau yn ysgrifenedig.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?

Mae'r amser mae'n ei gymryd i gwblhau achos yn dibynnu ar fath yr hawliad a'i gymhlethdod. Fodd bynnag, fel arfer byddwch yn derbyn penderfyniad ar atebolrwydd o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl i'ch hawliad gael ei gyflwyno yn achos hawliad am ddifrod yn unig.

Unwaith y bydd eich hawliad wedi'i ddyrannu i drafodwr hawliadau, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn cadarnhau'r amser mwyaf y gallwch ei ddisgwyl cyn i chi dderbyn eich penderfyniad. Gellir gofyn cwestiynau pellach ar yr adeg hon, a bydd ateb y rhain mor llawn â phosibl yn osgoi oedi yn yr ymchwiliadau.

Herio penderfyniad

Dim ond llys a all benderfynu a yw’r nam yn beryglus ai peidio, ac a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn esgeulus. Am y rheswm hwn, yn anffodus, nid yw ein gweithdrefn gwyno gorfforaethol yn berthnasol i hawliadau yswiriant. Rhaid i unrhyw ymholiadau neu heriau i'n penderfyniad atebolrwydd gael eu gwneud yn ysgrifenedig a'u hanfon at:

Yr Adran Yswiriant a Rheoli Risg
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG
Neu drwy e-bost at Insurance@caerphilly.gov.uk

Ar ôl cael gohebiaeth gennych chi, byddwn ni'n adolygu'ch cais ac yn cadarnhau'r canlyniad yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na dderbynnir ein penderfyniad, yna argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn dechrau unrhyw gamau cyfreithiol, i sicrhau eich bod yn cael cyngor proffesiynol ar ragolygon eich hawliad yn y llys, ac i osgoi bod yn gyfrifol am gostau cyfreithiol na allwch eu hadfer.

Hawliadau gan gyfreithwyr trydydd parti a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol eraill

Mae'n rhaid cyflwyno hawliadau am anafiadau personol ar gyfer damweiniau a ddigwyddodd ar neu ar ôl 31 Gorffennaf 2013 gan ddefnyddio Porth Hawliadau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn unol â'r Protocol Cyn-Cyfreitha ar gyfer Hawliadau Anafiadau Personol Gwerth Isel (Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus).

Sicrhewch fod pob hawliad yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei gyflwyno i ni'n uniongyrchol. Rydym yn ddigolledwr cofrestredig ar y Porthol a gellir dod o hyd iddo drwy chwilio ‘Cyngor Sir Caerffili’ o fewn manylion y digolledwr, neu drwy nodi ein Cod adnabod Porthol: G00281.

Ar gyfer hawliadau Atebolrwydd Personol, mae'n rhaid nodi manylion y diffynnydd fel a ganlyn:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Gyda phwy y dylech gysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â hawliad, neu os nad yw'ch hawliad yn ymwneud ag unrhyw un o'r hawliadau mwy cyffredin a restrir uchod, ffoniwch yr adran yswiriant ar 01443 863259.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Pe baech yn parhau i fod yn anfodlon ar ein gwadiad o'ch hawliad, yn anffodus nid yw ein gweithdrefn gwyno ffurfiol yn berthnasol o ystyried y ffaith bod gennych yr hawl gyfreithiol i gyflwyno achos llys sirol. Pe baech yn dymuno mynd â'ch hawliad i'r llys, byddem yn eich annog i ystyried cymryd cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud hynny er mwyn osgoi talu costau os nad ydych yn llwyddiannus.