Penodi Person Lleyg - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Recriwtio Lleygwyr

Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn awyddus i benodi Lleygwyr i’w Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd. Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen cefnogi gwelliant Awdurdodau Lleol. Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cynnig sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu. Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, gwneir cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn ystyried defnyddio cyfarfodydd ar-lein ar gyfer eu Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio wrth feddwl am y dyfodol. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i Leygwr gymryd rhan mewn Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio. Bydd y pwyllgorau’n cyfarfod sawl tro yn ystod y flwyddyn a bydd Lleygwyr (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol. Rhoddir taliadau yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gweler Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yr (Adran 9 / Tudalennau 30-31) am ragor o wybodaeth.

Beth yw Person Lleyg?

Mae lleygwr yn golygu nad yw'r person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,

  2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac

  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus. O fis Mai 2022 bydd Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu cadeirio gan Leygwr, felly byddai'r parodrwydd a'r gallu i ymgymryd â'r rôl hon yn ddymunol.

Sut i wneud cais

Felly os oes gennych chi brofiad neu ddiddordeb ym maes llywodraethu, archwilio, perfformiad neu risg ac yn awyddus i helpu awdurdod lleol i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, pam na rowch chi gynnig arni?

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Am wybodaeth bellach, neu i ofyn am gais papur, cysylltwch â
Deb Gronow – gronode@caerffili.gov.uk | 01443 863425