Cyflogau, treuliau a lwfansau

Bydd y cyngor yn cyhoeddi'r holl gyflogau (sef lwfansau yn flaenorol), costau teithio, cynhaliaeth a lwfansau gofal a delir i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf bob blwyddyn.

Cyflogau cynghorwyr

Mae'n ofynnol dan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gynghorau gyhoeddi cwmpas a symiau'r cyflogau a lwfansau a delir i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig bob blwyddyn. 

Lwfansau teithio

Dyma'r cyfraddau lwfansau teithio ar gyfer 2019/20: -

  • Cerbydau modur hyd at 10,000 o filltiroedd – 45c y filltir
  • Cerbydau modur dros 10,000 o filltiroedd – 25c y filltir
  • Tâl ychwanegol am deithwyr – 5c y filltir am bob teithiwr
  • Beiciau pedlo – 20c y filltir
  • Private motoe cycles - 24p per mile

Gall cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig hefyd hawlio am docynnau bws a thrên, a chost tacsi. Dim ond pris tocynnau a chostau gwirioneddol y gellir eu hawlio, a'r rheini wedi'u hategu â derbynneb. 

Dyletswyddau cymeradwy

Gall Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig hawlio costau teithio am 'ddyletswyddau a gymeradwyir' a ddiffinnir fel a ganlyn: -

  • mynd i un o gyfarfodydd yr awdurdod neu unrhyw un o bwyllgorau'r awdurdod, unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw un o bwyllgorau corff o'r fath;
  • mynd i un o gyfarfodydd unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohoni;
  • mynd i unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gyda chaniatâd gan yr awdurdod, gan unrhyw un o bwyllgorau'r awdurdod, neu gan un o gydbwyllgorau'r awdurdod ac un neu fwy o awdurdodau eraill;
  • dyletswydd yr ymgymerir â hi er mwyn cyflawni swyddogaethau swyddog gweithredol, neu yng nghyswllt eu cyflawni, lle y bo'r awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithredol yn unol ag ystyr Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
  • dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;
  • dyletswydd yr ymgymerir â hi yng nghyswllt cyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod sy'n galluogi'r awdurdod, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo, arolygu neu awdurdodi arolygu safle;
  • bod yn bresennol yn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu gan weithrediaeth neu fwrdd yr awdurdod; ac
  • unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir o'r fath, yr ymgymerir â hi er mwyn cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw rai o'i bwyllgorau, neu yng nghyswllt eu cyflawni. Ni ellir hawlio costau teithio am ymgymryd â busnes yr etholaeth.

Lwfansau cynhaliaeth

Mae lwfansau cynhaliaeth ar gael am ymgymryd â dyletswyddau swyddogol oddi cartref.

Yr uchafswm lwfans cynhaliaeth yw £28 y dydd (gan gynnwys brecwast pan na chaiff ei ddarparu fel rhan o lety dros nos).

Y lwfansau sydd ar gael am aros dros nos wrth ymgymryd â dyletswydd a gymeradwyir yw £200 yn Llundain a £95 yn unrhyw le arall, ac mae angen cyflwyno derbynneb. Mae uchafswm o £30 ar gael am aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau wrth gyflawni dyletswydd a gymeradwyir.

Dim ond am gostau gwirioneddol gyda derbynebau wedi'u cyflwyno y gellir hawlio am gynhaliaeth ac aros dros nos. Ni ellir hawlio am gynhaliaeth pan ymgymerir â dyletswyddau o fewn y fwrdeistref sirol.

Lwfans gofal

Mae gan aelodau ac aelodau cyfetholedig hawl i gael lwfans gofal wrth ymgymryd â busnes y cyngor, a phan achosir costau wrth ddarparu gofal i blant dan 15 oed. Hefyd, gellir hawlio'r lwfans gofal yng nghyswllt plant dros 15 oed neu ddibynyddion os yw'r cyngor yn fodlon bod angen goruchwyliaeth.

Gellir hawlio hyd at £403 bob mis. Dim ond costau gwirioneddol wedi'u hategu â derbynneb y gellir eu hawlio. Bydd y lwfans gofal ar gael am gostau gwirioneddol gyda derbynneb yn unig.

Cyflogau, lwfansau a threuliau blynyddoedd blaenorol

Cysylltwch â ni