Cydlyniant Cymunedol a Throsedd Casineb

Troseddau Casineb a Digwyddiadau Casineb Cysylltiedig 

Gellir defnyddio'r term 'trosedd casineb' i ddisgrifio trosedd neu ddigwyddiad a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi neu pwy mae rhywun yn meddwl ydych chi. Digwyddiad casineb yw ymddygiad sy'n cael ei ysgogi gan elyniaeth neu'n dangos gelyniaeth tuag at y dioddefwr oherwydd ei:

  • Anabledd: Pan fydd rhywun yn cael ei erlid oherwydd ei anabledd neu ei anabledd canfyddedig, boed yn feddyliol neu'n gorfforol – mae hyn yn drosedd gasineb
  • Hil neu ethnigrwydd: Pan fydd rhywun yn cyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd lliw eu croen, eu cenedligrwydd neu gefndir ethnig, eu hacen neu eu defnydd o iaith arall – mae hyn yn drosedd gasineb
  • Crefydd neu gred: waeth beth yw eich ffydd neu'ch crefydd, os cewch eich targedu oherwydd eich cred, sy'n cynnwys diffyg cred – mae hyn yn drosedd gasineb
  • Cyfeiriadedd rhywiol: Pan fydd rhywun yn cael ei erlid oherwydd ei rywioldeb, oherwydd eu bod yn (neu gael eu hystyried yn) hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu drawsrywiol – mae hyn yn drosedd gasineb
  • Hunaniaeth rhywedd: Pan fydd rhywun yn targedu rhywun sydd, er enghraifft, yn rhywedd cyfnewidiol, trawsryweddol neu’n rhywedd amrywiol – mae hyn yn drosedd casineb

Mae hyn yn golygu nad oes un math o drosedd sy'n drosedd casineb ond gall gynnwys:

  • Bygwth person
  • Cyffwrdd neu'n ymosod ar berson
  • Iaith sarhaus
  • Arwahanu oddi wrth ddigwyddiadau cymdeithasol neu weithgareddau
  • Graffiti tramgwyddus
  • Post casineb a symbolau sarhaus
  • Aflonyddu, bwlio ac erlid 
  • Mewn achosion lle mae'r dioddefwr yn fregus, gall y tramgwyddwr hefyd fod yn ffrind, gofalydd neu rhywun maent yn adnabod sy'n manteisio ar eu perthynas er budd ariannol neu ryw bwrpas troseddol arall

Adrodd achosion trosedd casineb

Rydym yn dibynnu ar aelodau o'r cyhoedd i roi gwybod am droseddau i'r Heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr, er mwyn darparu gwybodaeth i'n helpu i fynd i'r afael â throseddu.

Gall Heddlu Gwent gymryd camau i sicrhau eich bod yn cael eu diogelu os ydych yn dychryn o ganlyniad i roi gwybod am drosedd. Gall swyddogion gofal tystion eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau a all eich cefnogi.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dynodi erlynwyr troseddau casineb sy'n arbenigwyr yn y mathau hyn o droseddau.

Os ydych wedi profi unrhyw un o'r materion hyn, gallwch gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr ar 08456 121 900 dau ddeg pedwar awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i roi gwybod am y digwyddiad yn ddienw neu'n gyfrinachol ac i gael cymorth, neu gallwch ymweld â'u gwefan yn www.reporthate.victimsupport.org.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r cymorth yn cynnwys Cefnogaeth Emosiynol, Eiriolaeth, Cymorth Ymarferol, Bersonol a Diogelwch Cartref a Hwyluso Cyfiawnder Adferol.

Mewn argyfwng, wrth gwrs, dylech ffonio'r Heddlu ar 999 neu ar gyfer materion di-argyfwng, gallwch ffonio 101.

Adroddiad Mapio Trosedd a Digwyddiadau Casineb

Gan weithio gyda phartneriaid, rydym wedi'u mapio troseddau casineb a digwyddiadau casineb o fewn y fwrdeistref sirol gyda'r bwriad o sefydlu gwell darlun o'r sefyllfa i helpu i ddatblygu ymyriadau a chefnogaeth i ddioddefwyr priodol.

Datgelodd yr adroddiad dystiolaeth fod 144 o adroddiadau trosedd neu ddigwyddiadau casineb yn y fwrdeistref rhwng Ionawr 2012 ac Ionawr 2013, ac mae'n rhoi cipolwg ar natur yr achosion hyn.

Mae'r adroddiad yn cloi gydag argymhellion ar gyfer camau pellach.

Adroddiad Mapio Trosedd a Digwyddiadau Casineb CBSC 2012-2013 (PDF 455kb) 
 

Cysylltwch â ni