Blaenraglen Waith Pwyllgor Craffu Addysg

Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg, Y Cynghorydd Teresa Parry

'Eleni (2023/24) bydd y Pwyllgor Craffu Addysg yn cymryd rhan yng nghraffu’r canlynol:

  • Craffu cyn gwneud penderfyniad - ymgynghoriad cyn i benderfyniadau gael eu gwneud gan y Cabinet
  • Ymgynghori ar ddatblygu gwasanaeth a pholisi
  • Monitro cyllideb
  • Rheoli Perfformiad - Amcanion Gwella, Hunan-werthusiad y Cyngor a Chynlluniau Gwella Gwasanaeth

Yn ogystal â hynny bydd y pwyllgor craffu yn derbyn copïau o unrhyw adroddiadau perthnasol gan yr Ombwdsmon ac adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru. 

Hefyd bydd y flaenraglen waith yn cynnwys ceisiadau sydd wedi eu derbyn gan Gynghorwyr a’r cyhoedd ac unrhyw Alwadau am Gamau Gweithredu gan Gynghorwyr. 

Bydd y Flaenraglen Waith yn cynnwys unrhyw ‘Grwpiau Tasg a Gorffen’ sydd wedi’u creu gan y pwyllgor craffu, i gynnal unrhyw ymchwiliad manwl i destun penodol neu faes gwasanaeth.

Gobeithiaf y bydd y Flaenraglen Waith hon yn addysgiadol a byddwn yn croesawu unrhyw adborth’.

Y Flaenraglen Waith Gyfredol

The following FWP outlines the current work programme and will be updated every quarter following the public consultation on the next quarter draft FWP.

Blaenraglen Waith (PDF)

Cyfarfodydd y pwyllgor craffu

Mae holl bapurau cyfarfod y pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi 3 diwrnod gwaith clir cyn dyddiad y cyfarfod, ac maen nhw ar gael drwy glicio’r ddolen ganlynol:

Gweld cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol

Cysylltwch â ni