Cyfrifiad 2021

Census 2021 logoMae'r cyfrifiad ar gyrraedd. Drwy gymryd rhan, gallwch chi helpu'r broses o wneud penderfyniadau am wasanaethau sy'n llywio eich cymuned, fel gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad yn unigryw. Nid oes unrhyw beth arall sy'n rhoi cymaint o fanylion amdanom ni a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Mae pob math o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn defnyddio'r wybodaeth i helpu i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen arnom.  Mae elusennau hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad er mwyn helpu i gael y cyllid sydd ei angen arnynt. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, sy'n creu cyfleoedd gwaith.

Mae'n bwysig eich bod chi'n llenwi holiadur y cyfrifiad. Heb y wybodaeth y byddwch chi'n ei rhannu, byddai'n anoddach deall anghenion eich cymuned a chynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn un ffordd neu'r llall, mae eich gwybodaeth yn berthnasol i fywydau pob un person sy'n byw yng Nghymru a Lloegr, p'un ai bod hynny drwy ddefnyddio gwybodaeth y Cyfrifiad i gynllunio ysgolion newydd, meddygfeydd neu lonydd beicio.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae'n annibynnol ar y llywodraeth. Caiff eich manylion eu diogelu gan y gyfraith a bydd gwybodaeth a gaiff ei chyhoeddi yn ddienw bob amser.

Cyn dydd y Cyfrifiad (dydd Sul 21 Mawrth), bydd y SYG yn anfon llythyr atoch yn y post gyda chôd mynediad a chyfarwyddiadau.

Nod y SYG yw ei wneud mor hawdd â phosib i bawb, ond os oes angen cymorth arnoch i gymryd rhan yn y Cyfrifiad, bydd amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi ar gael.

Gallwch chi ofyn am gymorth eich hun neu ar ran rhywun arall, gan gynnwys:

  • canllawiau a help mewn sawl iaith a fformat
  • fersiwn bapur o'r holiadur, os yw'n well gennych chi
  • canllawiau hygyrch y cyfrifiad, er enghraifft, mewn Braille

Bydd man cymorth ar wefan y Cyfrifiad. Mae'n cynnwys popeth - o bwy i'w cynnwys ar yr holiadur i sut i ateb pob cwestiwn.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych ei angen yno, bydd canolfan gyswllt ddynodedig ar gael lle bydd staff y Cyfrifiad ar gael i roi cymorth dros y ffôn, mewn sgwrs ar-lein neu dros gyfryngau cymdeithasol.

Cyfrifiad 2021 fydd y tro cyntaf i ni gynnal cyfrifiad digidol yn gyntaf.  Gellir ei wneud ar unrhyw ddyfais. Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr a'ch côd mynediad gan y SYG, ewch ar-lein a nodwch y côd yn y wefan ddiogel i ddechrau.

Os na allwch fynd ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r Cyfrifiad ar-lein, bydd Canolfannau Cymorth y Cyfrifiad ledled Cymru a Lloegr.

Mae gwybodaeth genedlaethol am Gyfrifiad 2021 ar gael yn www.cyfrifiad.gov.uk.