Strategaeth Datgarboneiddio: Lleihau, Cynhyrchu, Gwrthbwyso, Prynu

Mae'r Strategaeth Ddatgarboneiddio: Lleihau, Cynhyrchu, Gwrthbwyso, Prynu yn nodi sut rydyn ni'n bwriadu lleihau ôl troed carbon y Cyngor a chyflawni ein nod cyffredinol o fod yn awdurdod niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Ynghyd â'r Strategaeth mae Cynllun Gweithredu, sy'n nodi manylion y camau y gall y Cyngor eu cymryd, a Phrosbectws Ynni sy'n amlinellu prosiectau masnachol posibl a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targed uchelgeisiol. Mae'r gyfres o ddogfennau yn canolbwyntio ar bedwar categori eang:-

  • LLEIHAU - Lleihau cyfanswm yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio
  • CYNHYRCHU - Cynhyrchu ein gwres a’n trydan ‘gwyrdd’ ein hunain
  • GWRTHBWYSO - Gwrthbwyso unrhyw allyriadau carbon
  • PRYNU - Mae gan bopeth yr ydym yn ei brynu garbon corfforedig sy’n gysylltiedig ag ef, a bydd angen ystyried hyn yn ystod y broses gaffael

Strategaeth Datgarboneiddio
Prosbectws Ynni
Cynllun Gweithredu