Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
Mae gennym gannoedd o bolisïau a chynlluniau mewn lle, y mae'n rhaid i ni eu gweithredu er mwyn darparu'r ystod eang o wasanaethau yr ydym yn gyfrifol amdanynt, i bawb sy'n dymuno cael mynediad atynt.
Er mwyn sicrhau bod pob un o'r rhain yn ystyried materion cydraddoldeb a'r Gymraeg, mae'n rhaid cynnal ‘Asesiad Effaith Cydraddoldeb’.
Mae hyn yn golygu bod unrhyw gamau posibl y byddem yn eu cymryd yn cael eu hasesu o safbwynt cydraddoldeb i weld pa effaith, os o gwbl, bydd gweithredu hynny yn cael ar y cyhoedd. Er enghraifft, byddai polisi ynghylch adnewyddu adeiladau yn cael eu hasesu i sicrhau y byddai unrhyw waith yn darparu mynediad llawn i bobl ag anableddau. Neu efallai bod canllawiau ar sut yr ydym yn delio â'r cyhoedd yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau bod rhywun sydd am ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn gallu gwneud hynny.
Ers mis Chwefror 2012, mae'r holl adroddiadau a gyflwynir i'r gwahanol bwyllgorau, y Cabinet a'r Cyngor Llawn wedi cynnwys adran ‘Goblygiadau Cydraddoldeb’ newydd fel rhan o'r fformat safonol.