Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu – byd gan bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth eu bod nhw’n eu cael.
Mae hefyd yn hyrwyddo ystod o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau'r angen am gymorth ffurfiol, wedi'i gynllunio.
- Bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu’r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.
- Bydd rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael.
- Bydd asesu’n symlach ac yn gymesur.
- Bydd gan ofalwyr hawl cyfartal i gael eu hasesu am gymorth.
- Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae’r Ddeddf Gwasanaethu Cymdeithasol a Llesiant – Rhan Dau, adran 14 yn mynnu bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynnal asesiad ar y cyd o’r anghenion am ofal a chymorth, ac anghenion y gofalwyr, yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.
Mae gofal a chymorth yn ymwneud â phobl sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr a’r rhai sy’n cael eu cefnogi drwy wasanaethau ataliol.
Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (PNA) yn cynnwys dwy adran:
- Asesu i ba raddau y mae pobl, neu eu gofalwyr, angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen cymorth arnyn nhw.
- Asesu amrywiaeth a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth a’u gofalwyr, er mwyn atal anghenion rhag codi a gwaethygu, a'r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Cafodd asesiad y boblogaeth cyntaf ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2017 a chafodd y fersiwn ddiweddaraf ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2022.
Cynllun Ardal Rhanbarthol
Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau eu bod nhw’n bwriadu eu darparu, neu drefnu i gael eu darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion y boblogaeth. Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol sydd wedi cael eu cynllunio mewn ymateb i bob thema graidd sydd wedi cael ei nodi yn yr asesiad o boblogaeth. Fel rhan o hyn, mae rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:
Cafodd y cynllun ardal cyntaf ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2018 gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Llesiant yr Awdurdod Lleol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu. Y manteision a fydd yn cael eu disgwyl yw mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhanbarthol, comisiynu ar y cyd a gwneud y gorau o adnoddau.
Dogfennau Cysylltiedig
I gael copi o unrhyw un o’r dogfennau sy’n cael eu rhestri isod, ewch i Bwrdd Partneriath Rhanbarthol Gwent gwefan.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, cysylltwch â gwentregionalpartnershipboard@torfaen.gov.uk neu ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu rhestri isod.
Facebook: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Twitter: @Board Gwent
YouTube: Gwent Regional Partnership Board