Cofrestru i bleidleisio
Etholiad Seneddol Cyffredinol 2019: Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi gofrestru erbyn 26 Tachwedd 2019.
Mae am ddim, yn gyflym ac yn hawdd cofrestru. Yr unig beth sydd angen arnoch yw eich rhif yswiriant gwladol.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i
- Gofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich enw, cyfeiriad neu fanylion eraill ar y gofrestru etholiadol, gan gynnwys gwneud cais am ffurflen gais pleidlais drwy’r post.
Bydd gofyn i chi
Os nad oes mynediad gennych i’r we, ffoniwch ein llinell gymorth gwasanaethau etholiadol ar 01443 864203. Gallwn gymryd eich manylion dros y ffon neu anfon ffurflen gofrestru drwy’r post os oes well gennych.
Cofrestru i bleidleisio os ydych yn y lluoedd arfog
Mae pobl yn y lluoedd arfog, a’u gwyr/gwragedd neu bartneriaid sifil, yn gallu cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol. Serch hynny, os ydych yn debygol o fod wedi eich lleoli dramor yn y flwyddyn nesaf, mae’n well i gofrestru fel pleidleisiwr/wraig gwasanaeth gan ddefnyddio cyfeiriad DU sefydlog.
Pwy all gofrestru?
Gallwch bleidleisio os ydych yn:
- 16 neu’n hŷn (er na allwch bleidleisio nes eich bod yn 18 oed); ac yn
- ddinesydd Prydeinig; neu’n
- Wyddelig, y Gymanwlad cymwys, neu Ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd, yn byw yn y DUP
Pam ddylen i gofrestru?
- Mae’r wybodaeth yn ofynnol yn gyfreithlon.
- Os nad ydych wedi cofrestru, ni allwch bleidleisio mewn etholiadau.
- Efallai byddwch yn ei chael hi’n anodd cael credyd, benthyciadau, cytundebau ffôn, morgais neu gyfrif banc gan fod y gofrestr yn cael ei ddefnyddio gan asiantaethau cyfeirnod credyd.
Pryd fydd angen i mi gofrestru?
Mae angen i chi gofrestru os:
- nad ydych wedi cofrestru yn barod; neu
- os nad ydych yn siŵr os ydych wedi cofrestru (peidiwch â phoeni am gofrestru ddwywaith - byddwn yn gwirio am hynny); neu
- yw eich amgylchiadau wedi newid (er enghraifft, rydych wedi symud cartref yn ddiweddar neu newid eich enw ); neu
- rydym wedi dweud wrthych chi yn ystod ein canfasio blynyddol nad yw eich manylion etholiadol yn cyd-fynd â chofnodion eraill.