Arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer bwrdeistref sirol Caerphilly

Mae'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar fin cynnal arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ymhlith y materion y bydd y Comisiwn yn eu hystyried bydd maint Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a nifer a ffiniau ei ranbarthau etholiadol yn seiliedig ar y patrwm presennol o gymunedau a wardiau cymunedol. 

Cyn dechrau llunio eu cynigion drafft, mae'r Comisiwn yn estyn gwahoddiad i unrhyw berson neu gorff sydd â diddordeb yn yr arolwg i anfon eu sylwadau cychwynnol nail ai drwy e-bost i: ymgynghoriadau@ffiniau.cymru, yn ysgrifenedig at: Yr Prif Weithredwr, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Tŷ  Hastings, Llys Ffitsalan, CAERDYDD, CF24 0BL rhwng 07 Mawrth 2019 a 29 Mai 2019.   

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr arolwg a gwaith y Comisiwn ar wefan y Comisiwn: www.cffdl.llyw.cymru

Sylwch y gellir cyhoeddi’r sylwadau a gyflwynir.  Os na fydd yr ymatebydd yn dymuno datgelu ei enw na’i gyfeiriad yn gyhoeddus, rhaid nodi hyn yn eglur yn yr ymateb.

Shereen Williams
Prif Weithredwr