Sefyll yn yr etholiad

Erioed wedi meddwl dod yn gynghorydd Cymreig?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli pobl leol a gwneud gwahaniaeth i ddemocratiaeth leol? Os felly, darllenwch ymlaen a helpwch i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oeddet ti’n gwybod y gallet ti gael dy dalu am gyflawni dy ddyletswyddau fel cynghorydd? Gallet ti hefyd hawlio lwfansau am fod yn gynghorydd, fel cael ad-daliad am gostau gofal plant neu bobl hŷn sy’n ddibynnol arnat ti yn ogystal â chostau teithio. Mae angen mwy o amrywiaeth o bobl, a phobl iau, sy’n dod o wahanol gefndiroedd i sefyll yn yr etholiadau lleol nesaf yng Nghymru yn 2022. Beth amdani? Gwylia’r ffilm fer hon i gael gwybod mwy.

Cer i wefan:

Mae Cynghorwyr yn chwarae rhan flaenllaw mewn cyfarwyddo a siapio effeithiolrwydd gwasanaethau lleol er lles y bobl leol.  Mae Cynghorwyr yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a’r sector breifat er mwyn cyflawni’r amcanion hyn. Mae lleoliad y cynghorydd yn hanfodol yn y gymuned leol ac hefyd yn llais i’r gymuned. 

Er mwyn sefyll etholiad fel cynghorydd bwrdeistref sirol, mae angen i chi fod yn:

  • 18 oed o leiaf.
  • Yn Ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu'r Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor cymwys.
  • Yn etholwr lleol, neu wedi byw, gweithio neu’n berchen eiddo yn y fwrdeistref sirol ers blwyddyn. 

Os ydych chi'n sefyll etholiad i Gyngor Tref neu Gymuned mae’r cymhwyster ‘lleol’ ychydig yn wahanol. Gallwch sefyll mewn etholiad os ydych yn byw yn y gymuned leol neu o fewn 4.8 cilomedr ohoni.

Os ydych am sefyll mewn etholiad ond nid ydych yn perthyn i barti gwleidyddol, gallwch sefyll fel cynghorydd annibynnol. Os ydych angen cefnogaeth blaid wleidyddol, bydd rhaid i chi ymuno ag un neu gael eich dewis fel ymgeisydd cyn yr etholiad. 

Ni allwch sefyll etholiad os ydych wedi'ch gwahardd, er enghraifft os ydych wedi bod yn y carchar yn ddiweddar. Mae'r ystod lawn o anghymwysiadau mewn etholiadau lleol yn gymhleth (Amgaeir rhagor o wybodaeth gyda'r pecyn enwebu) . Os ydych yn ansicr bydd angen i chi geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun.

Cyngor ar sut i sefyll mewn etholiad

Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol am sefyll mewn etholiad lleol.

Comisiwn Etholiadol – Sut allaf ddarganfod am sefyll fel ymgeisydd?

Pecynnau Enwebu

Mae pecynnau enwebu sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr etholiadau lleol sydd i ddod (Mai ’22) ar gael yma:

Rhaid danfon ffurflenni enwebu erbyn 4pm ar 5 Ebrill. Gellir eu danfon unrhyw bryd ar ôl 28 Mawrth rhwng 10.00am a 4.00pm. Os bydd ymgeiswyr yn dymuno bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn gwirio eu papurau'n anffurfiol cyn eu derbyn yn ffurfiol.

Ble

Gellir cyflwyno enwebiadau â llaw i’r Swyddog Canlyniadau, Ystafell Rhymni, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG neu drwy e-bost at enwebiadau@caerffili.gov.uk.

Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau hefyd ar gael cyn y cyfnod enwebu i wirio papurau'n anffurfiol yn y Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Gilfach, Stryd William, Gilfach, Bargoed CF81 8ND. Ffoniwch 01443 864203 am apwyntiad neu ebostiwch etholiadau@caerffili.gov.uk.

Sut

Gellir danfon ffurflenni enwebu â llaw neu drwy e-bost. Dylent gael eu cyflwyno gan yr ymgeisydd neu gan rywun y maent yn ymddiried ynddo. Os anfonir trwy e-bost cynghorir ymgeiswyr yn gryf i wirio eu ffurflenni ymlaen llaw oherwydd unwaith y byddant wedi'u hanfon drwy e-bost, byddant yn cael eu hystyried fel rhai sydd wedi'u dosbarthu'n ffurfiol. Mae'r Swyddog Canlyniadau yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn cyflwyno eu ffurflenni enwebu trwy e-bost wirio i sicrhau eu bod wedi cael eu derbyn.

Arolwg ymgeiswyr etholiadau lleol

Mae amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiadau lleol a’r rhai sy’n cael eu hethol yn cael ei monitro gan Lywodraeth Cymru.  Mae dolen gyswllt i’r arolwg a’r llythyr sy’n cyd-fynd ar gael isod.

Arolwg o Ymgeiswyr Etholiadau Lleol yng Nghymru 2022

Llythyr atodol Ysgrifennydd y Cabinet (PDF)

Cysylltwch â ni