Canllaw i ysgolion

Croesawu a Chefnogi Plant a Phobl Ifanc sy'n Ffoaduriaid

Mae’r nodiadau hyn wedi’u paratoi fel canllaw cyflym i’r ysgolion hynny sydd ar fin derbyn plentyn neu berson ifanc sydd wedi dod i Geredigion i ddianc rhag y rhyfel yn yr Wcrain. Mae’r nodiadau yn grynodeb o’r wybodaeth sydd yn y ddogfen ‘Welcoming refugee children to your school: A National Education Union teaching resource’ (https://neu.org.uk/refugee).

Mae’r plant sy’n ffoaduriaid yn debygol o fod wedi gwneud teithiau dirdynnol i gyrraedd man diogel ac efallai’n wir wedi gadael aelodau agos o’r teulu ar ôl mewn amgylchiadau ansicr a pheryglus iawn. Mae’n debygol y byddant wedi wynebu trawma, wedi gweld pethau a allai achosi straen wedi trawma, yn sicr yn teimlo ymdeimlad o golled am y bywyd a adawyd ar ôl a gallent fod mewn profedigaeth o deulu agos a ffrindiau.

Y peth sylfaenol i’w gofio yw pwysigrwydd y perthnasoedd y mae plant yn eu meithrin gyda chi a’u cyfoedion i’w gallu i deimlo’n ddiogel tra oddi cartref.

Mae’r ddogfen ganlynol wedi’i chreu gan Wasanaeth Seicoleg Addysg Caerffili ac mae’n cynnwys gwybodaeth, canllawiau ymarferol a dolenni i ddogfennau defnyddiol pellach:

Mae Cyngor Ceredigion wedi creu tudalen we o adnoddau i gefnogi plant sy'n ffoaduriaid a phlant sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg fel ail iaith. Mae’r ddolen ganlynol yn cynnwys adnoddau cyffredinol a lles, yn ogystal ag adnoddau ar addysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol:

Gwybodaeth bellach