Cynnig llety
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi'r manylion am y cynllun cenedlaethol ‘Cartrefi i Wcráin’.
Bydd hyn yn cynnig llwybr i'r rhai sydd am ddod i'r Deyrnas Unedig sydd â rhywun yma sy'n fodlon darparu cartref iddyn nhw. Bydd yn galluogi unigolion, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau i gynnig llety a darparu llwybr i ddiogelwch ar gyfer Wcreiniaid, ac aelodau o'u teulu agos, sy'n cael eu gorfodi i ddianc o'u mamwlad.
Dylai noddwyr ddarparu llety am gyhyd ag y gallan nhw, ond rydyn ni'n disgwyl cyfnod o 6 mis o leiaf.
Os hoffech chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb, gallwch chi gofrestru drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Cofrestru eich diddordeb
Cysylltwch â’r Cyngor ar y cyfeiriad e-bost (CymorthWcrain@caerffili.gov.uk) hwn os ydych chi wedi cofrestru’ch diddordeb i letya teulu o Wcráin neu os ydych chi wedi cael eich paru â theulu – gall y Cyngor ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chymorth ariannol.
Dylai noddwyr sydd â diddordeb mewn lletya teulu neu unigolyn o Wcráin ddod o hyd i’w lletywyr naill ai'n annibynnol, neu drwy un o'r sefydliadau gwirfoddol a grwpiau ffydd niferus sy'n rhan o'r broses. Mae rhai wedi'u lleoli yn Wcráin a rhai yn y DU. Ni all y cyngor argymell un gwasanaeth paru dros un arall. Mae Llywodraeth y DU wedi comisiynu 'RESET Homes for Ukraine' i ddarparu gwasanaeth paru.
Gwybodaeth Bellach
Diweddariad ar y cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru
Cwestiynau ac atebion am sut y bydd y cynllun Cartrefi i Wcráin yn gweithio