Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Fy nhudalennau
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Etholiad Cyffredinol 2019
Swyddi gwag
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Diwrnodau casglu biniau
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Apeliadau derbyn i ysgolion
Casgliadau bin a gollwyd
Cerdyn Teithio Rhatach
Amserlenni bysiau
Canolfannau ailgylchu
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Gwybodaeth am wasanaethau dros y Nadolig
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
August 2018
‘Play Me, I’m Yours’ yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn
News Centre
‘Play Me, I’m Yours’ yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn
Postiwyd ar : 20 Aws 2018
Grŵp Sgowtiaid 1af Abercarn yn Sesiwn Peintio Piano'r Cymoedd diweddar yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn
Mae'r digwyddiad cerddoriaeth ‘Play Me, I’m Yours’ ar gael ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.
Mae'r prosiect yn deillio o waith yr artist Luke Jerram a gyrhaeddodd dros 10 miliwn o bobl trwy osod pianos ar draws gwahanol ddinasoedd o Hong Kong, i Baris ac Efrog Newydd.
Er mwyn dathlu trefi a chreadigrwydd lleol Cymoedd De Cymru, bydd 10 pianos unigol yn cael eu gosod o ganol tref Castell-nedd i Goedwig Cwmcarn dros yr haf.
Mae gosod y pianos yng Nghymoedd De Cymru yn dilyn lansiad llwyddiannus y gân ‘Ein Cymoedd, Our Valleys’ ar Spotify fis diwethaf. Mae'r gân hon a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan y canwr-gyfansoddwr Cymreig Kizzy Crawford, ynghyd â mwy na 200 o blant ysgol y Cymoedd, yn dathlu ysbryd cerddorol y Cymoedd. Bydd gan bob un o'r 10 piano'r ddalen gerddoriaeth ar gyfer y gân hon fel y gall pawb sy'n ymweld canu'n uchel â balchder.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Dasglu Llywodraeth Cymru yn y Cymoedd, fel rhan o ymgyrch Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.
Cafodd y piano yng Nghoedwig Cwmcarn ei ddylunio a'i baentio gan Grŵp Sgowtiaid 1af Abercarn a gwirfoddolwyr mewn Sesiwn Peintio Piano'r Cymoedd arbennig ar ddydd Mercher 15
fed
Awst ac mae bellach ar gael i ymweld â hi bob dydd tan ddydd Sul 9
fed
Medi.
Dywedodd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a Chadeirydd y Tasglu Gweinidogol:
“
Mae gennym ysbryd cymunedol, talent a thirlun mor anhygoel yn y Cymoedd. Beth am ddod at ein gilydd i ganu'n uchel, canu'n falch a rhannu gyda'r byd yr holl bethau sydd gennym i ddathlu yng Nghymoedd De Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae hon yn rhaglen wych a fydd yn helpu i annog pobl i aros ac archwilio eu cymunedau eu hunain yn ogystal â dod â mwy o dwristiaeth ac ymwybyddiaeth i Gymoedd y De. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gymuned leol yn dod ynghyd yng Nghoedwig Cwmcarn i fwynhau a chymryd rhan yn y dathliad hwn o ddiwylliant Cymru.”
I gael gwybod mwy am y gweithgareddau yng Nghoedwig Cwmcarn ffoniwch 01495 272001 neu ewch at y dudalen Facebook www.facebook.com/cwmcarnforest.
Neu, am ragor o wybodaeth am 'Ein Cymoedd, Ein dyfodol' a chynlluniau'r tasglu i gefnogi ein Cymoedd ewch i
https://beta.llyw.cymru/ein-cymoedd-ein-dyfodol
new ewch i
http://www.facebook.com/talkvalleys/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Y Cyngor yn helpu i roi inc yn Inka Colour Print
Erlyn a dirwyo Dijla Ltd yn dilyn ymchwiliad y Cyngor
Disgyblion Plasyfelin yn dechrau plannu
Marchnad Nadolig Caerffili yn Llwyddiant Ysgubol
Rhaglen golchi dwylo yn mynd gyda'r llif
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Please help us improve our website...