News Centre

Cynlluniau ar gyfer Parc Penallta yn datblygu

Postiwyd ar : 04 Awst 2022

Cynlluniau ar gyfer Parc Penallta yn datblygu
Mae cynlluniau i ddatblygu ac adeiladu canolfan ymwelwyr newydd ym Mharc Penallta, Ystrad Mynach, yn mynd yn eu blaen.

Bydd y ganolfan ymwelwyr amlbwrpas newydd yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol a phorth darganfod ar gyfer menter Parc Rhanbarthol y Cymoedd ac yn darparu cartref posibl ar gyfer y ‘cynllun gwarcheidwaid’. Bydd yn cynnwys cyfleusterau addysg a chynadledda, caffi, toiledau, cawodydd, ac yn gweithredu fel canolbwynt iechyd a lles.

Mae caniatâd cynllunio ar gyfer y ganolfan newydd bellach wedi’i roi, ac mae'r lleoliad wedi cael ei ddewis i ehangu apêl y parc, cynyddu'r nifer o ddefnyddwyr ac arddangos y rhannau o’r parc sy’n cael eu defnyddio’n llai neu sy'n llai adnabyddus ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae cyfres o brosiectau'r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig yn cael eu darparu yn y parc gwledig sy'n cynnwys gosod creigiau dringo a gwella ac ailosod y llwybr pren gan ddarparu mannau gwylio i brofi cynefinoedd corsydd pwysig a gweld bywyd gwyllt. Mae gwaith draenio gwell a gwaith rheoli gwlyptiroedd a dŵr yn mynd yn eu blaen ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae’r prosiectau hyn yn ychwanegu at barc gwledig sydd eisoes yn fywiog ac yn boblogaidd, felly, bydd llawer yn ei fwynhau, tra bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn rhoi Parc Penallta ar y map ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. 

“Bydd ychwanegu at y parc gwledig hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ein hamgylchedd a'n tirwedd, iechyd a lles ein cymunedau.”


Ymholiadau'r Cyfryngau