Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Fy nhudalennau
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi gwag
COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Gwastraff heb ei gasglu
Amserlenni bysiau
Canolfannau ailgylchu
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Cyngor a chymorth am lifogydd
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19)
: yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2020
Disgyblion yn plannu ‘perthi gobaith’
News Centre
Disgyblion yn plannu ‘perthi gobaith’
Postiwyd ar : 02 Rhag 2020
Disgyblion o Flwyddyn 6 Ysgol Santes Gwladys Bargod yn helpu i blannu perth newydd ym Mharc Coetir Bargod. Helpu i wneud dyfodol gwell i bobl a bywyd gwyllt yn eu hardal.
Mae disgyblion ysgolion cynradd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn plannu ‘perthi gobaith’ i ddathlu Wythnos Genedlaethol Coed ac mewn ymgais i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Bydd disgyblion o ysgolion cynradd Santes Gwladys, Gilfach Fargoed, y Parc ac Aberbargod yn ymuno â Cheidwaid Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i blannu 500 metr o berthi newydd – sy'n cyfateb i 2,000 o goed newydd – ym Mharc Coetir Bargod. Bydd gwirfoddolwyr o'r prosiect ‘Gofalwn’, sy'n cael ei gyflenwi gan Groundwork, hefyd yn treulio diwrnod yn helpu'r prosiect.
Yn 2019, fe ddaeth y Cyngor yr ail un yng Ngwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae'r prosiect blynyddol, ‘perthi gobaith’ – sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad y Cyngor – yn mynd ati i gefnogi hyn trwy blannu coed a pherthi i helpu amsugno carbon.
Mae coed yn helpu cael gwared â nwyon tŷ gwydr a charbon deuocsid o'r aer, gan helpu lleihau cynhesu byd-eang. Dros nifer o flynyddoedd, mae coed wedi cael eu torri i lawr yng Nghymru gan adael dim ond 16% yn ardaloedd coetir, o'i gymharu â'r mwyafrif o wledydd Ewropeaidd sydd â 30%.
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, cynyddu cynaliadwyedd a gwarchod ein hamgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, ac rydyn ni'n gwneud gwaith sylweddol i ddelio â'r mater hwn. Mae prosiectau fel y rhai sy'n cael eu darparu gan ein Gwasanaeth Ceidwaid yn bwysig, nid yn unig wrth helpu ein hamgylchedd, ond hefyd wrth ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n cymunedau lleol; gan godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd, a'r rôl y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth fynd i'r afael ag ef.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cymunedau yn dangos eu cariad mewn ffordd anarferol
Cyngor Caerffili yn cymeradwyo cyllideb heb doriadau
Caerffili'n Canu
Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn rhoi blychau nythu i Barc Cwm Darran ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu
Dweud eich dweud – System archebu y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Please help us improve our website...