Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2021
Gosod camerâu cylch cyfyng ychwanegol yn Rhymni wrth i brosiect Strydoedd Saffach Heddlu Gwent barha
News Centre
Gosod camerâu cylch cyfyng ychwanegol yn Rhymni wrth i brosiect Strydoedd Saffach Heddlu Gwent barhau
Postiwyd ar : 06 Rhag 2021
Mae chwe chamera cylch cyfyng cyhoeddus newydd wedi’u gosod ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd (A465) a strydoedd cyfagos i helpu i fynd i’r afael â throseddau yn y gymdogaeth yn Rhymni.
Yn ogystal â’r camerâu, sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd ar Deras Lady Tyler, Stryd yr Eglwys, Stryd y Bryn, y gyffordd wrth Heol Merthyr, Dan y Graig a chyffordd traphont yr A465 ger Pontlottyn, mae goleuadau cyfagos a fydd yn helpu swyddogion i daclo troseddau cerbydau ac achosion o ddwyn tanwydd yn yr ardal.
Mae’r camerâu cylch cyfyng, sy’n rhan o brosiect Strydoedd Saffach yr heddlu yn Rhymni, yn gallu cael eu symud i naw lleoliad arall gan helpu i fynd i’r afael â throseddau yn y gymdogaeth, atal lladrad a nodi troseddwyr posib.
Llwyddodd Heddlu Gwent i sicrhau bron i £300,000 (£299,777) o gyllid Strydoedd Saffach gan y Swyddfa Gartref yn gynharach eleni.
Mae menter Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref yn rhoi cyfle i heddluoedd Cymru a Lloegr wneud cais am grantiau y gellir eu defnyddio ar fesurau atal troseddau yn eu cymunedau.
Mae’r cronfeydd, a ddefnyddiwyd i brynu’r camerâu cylch cyfyng, yn cael eu defnyddio i atal troseddau a gwella diogelwch cartrefi yn wardiau Moriah, Pontlottyn a Thwyn Carno yn Rhymni, gyda’r ffocws ar y troseddau yn y gymdogaeth mwyaf cyffredin yn yr ardal: byrgleriaeth, lladrata, dwyn a throseddau cerbydau.
Bu swyddogion yn ymweld â thrigolion ym mis Awst i gyflwyno’r prosiect, i gynnig cyngor diogelwch yn y cartref ac i asesu angen pob unigolyn am fesurau diogelwch ychwanegol a allai fod eu hangen, er enghraifft gwell cloeon ar ddrysau a ffenestri, goleuadau diogelwch ‘machlud tan y wawr’, amseryddion goleuadau dan do a systemau cloch drws cylch cyfyng i breswylwyr.
Fel rhan o brosiect Strydoedd Saffach yn Rhymni, mae Heddlu Gwent yn:
Helpu i wella diogelwch yn y cartref drwy gynnig offer diogelwch am ddim, gan gynnwys gwell cloeon ar ddrysau a ffenestri i’r rhai y mae eu hangen arnynt.
Helpu i amddiffyn eitemau gwerthfawr preswylwyr rhag cael eu dwyn drwy ddosbarthu pecynnau marcio eiddo am ddim ac arwyddion cysylltiedig.
Helpu i amddiffyn cerbydau rhag trosedd drwy osod camerâu cylch cyfyng cyhoeddus newydd.
Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent – sef ymgyrch lwyddiannus sy’n mynd i’r afael â throseddau meddiangar yn y sir – yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect.
Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi dosbarthu pinnau SmartWater ac UV i breswylwyr er mwyn caniatáu iddyn nhw farcio eu heiddo yn fforensig – gan eu gwneud yn haws eu holrhain, a’u dychwelyd, os cânt eu dwyn.
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman, sef arweinydd yr heddlu ar droseddau meddiangar:
“Rydyn ni am i bobl deimlo’n ddiogel yn yr ardaloedd maen nhw’n byw ynddyn nhw.
“Mae pob trosedd yn cael effaith negyddol ar y cyhoedd, felly mae unrhyw fesurau y gallwn eu cyflwyno i fynd i’r afael â’r problemau yma a gwneud i bobl deimlo’n llai ofnus o droseddau yn gam i’r cyfeiriad cywir.
“Mae’r tactegau y byddwn ni’n eu defnyddio yn Rhymni, yn ogystal â Philgwenlli yng Nghasnewydd, wedi’u cynllunio nid yn unig i atal a lleihau troseddau ond hefyd i helpu pobl i gadw eu hunain, eu hanwyliaid a’u heitemau pwysig yn ddiogel.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda chyfrifoldeb am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent ar y prosiect hwn sydd wedi’i dargedu at fynd i’r afael â’r problemau sy’n codi mewn ardal benodol yn y fwrdeistref sirol.
“Mae diogelwch preswylwyr yn hollbwysig ac rydyn ni’n hyderus y bydd y mesurau hyn yn atal troseddau o’r fath rhag digwydd ac yn cynnig sicrwydd i’r gymuned leol.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Strydoedd Saffach Heddlu Gwent, ewch i
Strydoedd Saffach | Heddlu Gwent.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus
Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y