News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynllun ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes

Postiwyd ar : 06 Rhag 2021

Cabinet yn cymeradwyo cynllun ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes
Yn ddiweddar, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynllun rhyddhad ardrethi dewisol lleol i helpu talwyr ardrethi cymwys o ran ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

Mae'r cyllid, sydd werth £452,000, wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru trwy Setliad Ariannol Llywodraeth Leol a'r nod yw nodi a helpu busnesau nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae talwyr ardrethi busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael rhyddhad ardrethi busnes 100% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 o dan gynllun ar wahân Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hwn, felly, yn anelu at helpu'r talwyr ardrethi hynny a oedd yn anghymwys.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter:

“Rwy'n falch ein bod ni, fel awdurdod lleol, yn gallu parhau i helpu ein busnesau ni unwaith eto drwy ddefnyddio £452,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

“Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn hynod o galed ar ein busnesau lleol ni, ac rydyn ni'n falch o allu eu helpu nhw i adfer yn sgil effeithiau'r pandemig.

“Wrth symud ymlaen, byddwn ni'n parhau i ddarparu cymorth i fusnesau i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle gwych i wneud busnes.”

I gael rhagor o wybodaeth am ryddhad ac eithriadau ardrethi busnes, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Business/Business-rates/Relief-and-exemptions?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau