News Centre

Trigolion Caerffili yn troi yn 100

Postiwyd ar : 22 Rhag 2021

Trigolion Caerffili yn troi yn 100
Mae un o drigolion Cartref Preswyl Cyngor Caerffili, Tŷ Iscoed wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.

Mae Myrys Joan Dew, a ddaeth yn breswylydd yn Nhŷ Iscoed ym mis Hydref 2011, wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, gydag ysgolion lleol, cynghorwyr a'r Maer i gyd yn dymuno pen-blwydd hapus iddi.
 
Daeth ei theulu hefyd i ymweld â Myrys ar gyfer ei phen-blwydd, a gafodd ei nodi gyda pherfformiad telyn yn y prynhawn.
 
Pan ofynnwyd iddyn nhw am Myrys, dywedodd gweithwyr cymdeithasol o Dŷ Iscoed, “Mae Myrys yn ddynes gymdeithasol a chyfeillgar iawn sy’n treulio ei diwrnod yn siarad gyda’r preswylwyr eraill. Mae hi'n aml yn siarad am ei theulu y mae'n amlwg yn falch iawn ohonyn nhw, ac mae hi’n mwynhau cerddoriaeth. Mae’n bleser treulio’r diwrnod yn dathlu pen-blwydd Myrys gyda hi. Gobeithio ei bod hi wedi cael diwrnod gwych.”
 
Roedd Ysgol Gynradd Pantside ac Ysgol Gynradd Penllwyn yn dymuno pen-blwydd hapus i Myrys drwy wneud cardiau a siarad â hi dros FaceTime. Hefyd, anfonodd y Maer gerdyn a blodau ac aeth y Cynghorydd Shayne Cooke i ymweld â hi i ddymuno pen-blwydd hapus i Myrys.
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Gobeithio bod Myrys wedi cael pen-blwydd hyfryd iawn a’i bod hi’n cael Nadolig Llawen iawn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau