News Centre

Llwybr newydd wedi’i gwblhau ym Maes y Sioe, Coed Duon

Postiwyd ar : 22 Rhag 2021

Llwybr newydd wedi’i gwblhau ym Maes y Sioe, Coed Duon
Mae'r gwaith i osod llwybr newydd ym Maes y Sioe, Coed Duon, bellach wedi'i gwblhau diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd y llwybr ei ariannu ar y cyd drwy gyllideb parciau'r Cyngor a Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, gyda chyfanswm cost o £80,000.

Erbyn hyn, gall defnyddwyr gerdded, rhedeg neu loncian perimedr Maes y Sioe, beth bynnag fo'r tywydd, gyda llwybr sy’n mesur cylchedd cyfan o 1.2km. Mae'r llwybr hefyd yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am barciau a mannau agored, “Mae Maes y Sioe yn fan agored sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y gymuned leol, a bydd y llwybr tarmac newydd yn dod yn ychwanegiad i'w groesawu i lawer o ymwelwyr. Mae'r safle eisoes yn cynnwys ardal chwarae boblogaidd i blant a champfa awyr agored. Mae'r llwybr newydd bellach yn cynnig hyd yn oed fwy o gyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i wneud ymarfer corff."


Ymholiadau'r Cyfryngau