News Centre

Datgelu cynigion ar gyfer Uwchgynllun Trecelyn i Risga

Postiwyd ar : 02 Rhag 2021

Datgelu cynigion ar gyfer Uwchgynllun Trecelyn i Risga
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu cynigion adfywio ar gyfer ardal Trecelyn i Risga.

Cafodd Uwchgynllun Coridor Trecelyn i Risga ei ystyried gan aelodau o Bwyllgor Craffu Tai ac Adfywio y Cyngor yn ystod cyfarfod o bell diweddar. Bydd y cynigion nawr yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ac, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo, bydd proses ymgynghori cyhoeddus 6 wythnos o hyd yn cael ei chynnal.

Y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn yr Uwchgynllun drafft yw adeiladu ar y cryfderau presennol o ran cyflogaeth a thwristiaeth yn yr ardal hon a hyrwyddo'r ardal ymhellach fel prif leoliad ar gyfer cyflogaeth, twristiaeth a hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Mae Uwchgynllun Coridor Trecelyn i Risga yn rhan o raglen Llunio Lleoedd ehangach y Cyngor, a fydd yn golygu buddsoddi mawr ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'n helpu ni i ddeall anghenion a blaenoriaethau cymunedau yn yr ardaloedd hyn. Bydd yr Uwchgynllun hefyd yn defnyddio cyfleoedd ar gyfer ffynonellau cyllid allanol ac yn sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl i ysgogi'r economi leol.” 


Ymholiadau'r Cyfryngau