News Centre

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn cyflawni safon arian yn Asesiad Marc Ansawdd MOVE

Postiwyd ar : 23 Rhag 2021

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn cyflawni safon arian yn Asesiad Marc Ansawdd MOVE
Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi cael Marc Ansawdd Arian MOVE i gydnabod eu darpariaeth ragorol o'r rhaglen MOVE.

Mae'r rhaglen MOVE yn arfer sy'n seiliedig ar weithgaredd sy'n galluogi plant a phobl ifanc ag anableddau corfforol i eistedd, sefyll, cerdded a phontio mor annibynnol â phosibl. Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi dod yn enghraifft wych o'r rhaglen yn gyflym ers dechrau'r rhaglen MOVE yn 2019. Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi ehangu'r ddarpariaeth MOVE i gynorthwyo nifer o ddisgyblion ledled yr ysgol i ennill sgiliau symud gweithredol a fydd yn cynyddu eu hannibyniaeth ac ansawdd bywyd cyffredinol, gyda chynlluniau i gynyddu'r nifer yn raddol dros y misoedd nesaf.

Ysgrifennodd Verity Sowden ac Emma Dyer, y cynrychiolwyr o MOVE Ewrop, a gynhaliodd yr asesiad ansawdd, “Mae Ysgol Cae'r Drindod yn dîm ymroddedig MOVE sy'n amlwg yn deall ethos ac effaith y rhaglen MOVE… (Mae'r tîm) yn sicrhau bod MOVE yn parhau i gael ei ymgorffori yn yr ysgol a'i gefnogi gan yr Uwch Arweinwyr. Mae'n wych clywed am astudiaethau achos lle mae'r rhaglen MOVE nid yn unig wedi gwella cyfleoedd y disgyblion sy'n defnyddio'r rhaglen, ond hefyd y rhwydwaith teulu/cymorth o amgylch y disgybl hwnnw.”

Ychwanegodd Leanne Boardman, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, “Mae cyflwyno'r rhaglen MOVE yn Ysgol Cae'r Drindod wedi bod yn ddatblygiad cyffrous, gan wella'r ystod o gyfleoedd sy'n cael ei chynnig i'n disgyblion ni.

“Rydyn ni wedi elwa'n fawr o weithio mewn partneriaeth agos gyda'n ffisiotherapydd ni, Jo Wood, sydd wedi helpu gyrru'r rhaglen ymlaen mor llwyddiannus. Mae'r annibyniaeth gynyddol y mae ein disgyblion ni'n ei datblygu o ganlyniad uniongyrchol i hyn wedi effeithio nid yn unig ar y disgyblion, ond ar eu teuluoedd hefyd.

“Mae cynnwys disgyblion, rhieni, gofalyddion a staff therapi yn y broses asesu a gosod nodau yn sicrhau gwir ymdeimlad o berchnogaeth ar y rhaglen, ac rydyn ni'n gweld effaith glir o hyn yn y cynnydd anhygoel y mae'r disgyblion yn ei wneud.”

Dywedodd Emma Ilejco, rhiant un o'r disgyblion ar y rhaglen MOVE, “Mae C yn falch iawn o'i hun ac yn hoff o'r annibyniaeth y mae wedi'i rhoi iddi. Mae MOVE wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n teulu.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen MOVE, ewch i www.enhamtrust.org.uk/move 


Ymholiadau'r Cyfryngau