Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Chwefror 2019    Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi ei chymeradwyo

News Centre

Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi ei chymeradwyo

Postiwyd ar : 22 Chwe 2019

Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi ei chymeradwyo
Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi ei chymeradwyo

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn i ddod (2019/2020) - a oedd yn cynnwys ailystyried nifer o gynigion arbedion yn dilyn adborth gan drigolion.
       
Roedd yr adroddiad cyllideb yn cynnwys gofyniad am arbedion o bron i £14 miliwn ar gyfer 2019/20. Roedd cyfres o gynigion o £14.6 miliwn yn destun cyfnod o ymgynghori cyhoeddus dros y misoedd diwethaf, gyda chanlyniad setliad ychydig yn well na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru gan ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd i ailystyried rhai o'r cynigion arbedion.
 
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cyng. Barbara Jones,  "Mae'r rhain mewn gwirionedd yn adegau anodd, ond rydym yn parhau i wneud ein gorau i ddiwallu anghenion a dyheadau ein cymunedau, er gwaethaf yr heriau ariannol enfawr yr ydym yn eu hwynebu. Yn ffodus, diolch i'r gyllideb derfynol a oedd ychydig yn well na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, cawsom rywfaint o hyblygrwydd i ailystyried rhai o'r arbedion ar y rhestr am y tro, ac ymateb i'r adborth gan ein trigolion.
                     
"Rydym wedi dangos yn eglur bod y cyngor hwn yn barod i wrando ac ymateb yn gadarnhaol i farn y gymuned leol, ac rwy'n siŵr y bydd pawb sy'n pryderu’n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi ailystyried nifer o'r cynigion."
 
Mae'r arbedion arfaethedig a fydd yn cael eu gohirio yn cynnwys:

  • Terfynu gwasanaeth Wardeniaid Diogelwch Cymunedol CBSC -  mae'r adroddiad nawr yn argymell gostyngiad i'r tîm o 9 i 6 warden
  • Lleihau gwasanaeth pryd ar glud, 'Meals Direct' -  bydd hyn yn awr yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad ehangach Gwasanaeth Arlwyo'r cyngor.
  • Cau 2 ganolfan ailgylchu gwastraff cartrefi  - bydd y mater yn cael ei ohirio hyd nes y bydd adolygiad gwastraff cynhwysfawr yn dod i ben 
  • Cyflwyno taliadau am drin llygod mawr -  wedi’i ohirio
  • Torri cyllid a chau Canolfannau Cymunedol -  wedi’u gohirio am flwyddyn i ganiatáu cyfnod rhybudd o 12 mis pryd y bydd arian yn cael ei dynnu'n ôl.
  • Tynnu'r arian yn ôl ar gyfer cynlluniau cymunedol fel Llawr Sglefrio Iâ  Bargod a Splash Pad Senghenydd -  wedi'i ohirio am flwyddyn i ganiatáu cyfnod rhybudd o 12 mis pryd y bydd arian yn cael ei dynnu'n ôl.

 
Ychwanegodd y Cyng. Dave Poole,"Mae'n amlwg, o ystyried peth o'r adborth a gawsom, bod ein trigolion yn teimlo bod rhai o'r cynigion yn annerbyniol - fel y gwnaeth fy nghydweithwyr yn y Cabinet a finnau. Yn sicr, ni wnaeth unrhyw un ohonom ddewis i fod mewn gwleidyddiaeth neu wasanaethau cyhoeddus i wneud toriadau. Rydym wedi gwrando, rydym wedi ymateb, ac ar hyn o bryd, rydym yn gallu cymryd nifer o'r arbedion hyn oddi ar y rhestr o arbedion."
 
Fel rhan o osod y gyllideb, cymeradwywyd cynnydd o 6.95% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2019/2020 hefyd.
 
Parhaodd y Cyng. Barbara Jones, "Fe wnaethom gytuno yn groes i’r graen â'r cynnydd arfaethedig o 6.95% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2019/20, sy'n cyfateb i gynnydd o £1.41 yr wythnos mewn taliadau treth y cyngor yn seiliedig ar eiddo Band D. Nid oedd unrhyw un ohonom eisiau gwneud hyn, ond y gwir trist yw ein bod ni'n wynebu'r anghydfod naill ai i ofyn i drigolion dalu ychydig yn fwy neu i wneud toriadau dyfnach i wasanaethau rheng flaen.
 
"Yn ddiddorol, ar gyfer 2018/19, cafodd Caerffili'r drydydd bil treth y cyngor isaf yng Nghymru ar gyfer eiddo Band D, a hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, bydd trigolion Caerffili yn dal i dalu ymhlith yr isaf yng Nghymru. Dangosodd yr adborth o'n hymgynghoriad cyllideb hefyd, er bod unrhyw gynnydd yn amhoblogaidd, mae yna ddealltwriaeth a derbyniad cyffredinol bod angen inni wneud y penderfyniadau anodd hyn er mwyn diogelu gwasanaethau."
 
Fel rhan o osod y gyllideb, cymeradwyodd y cynghorwyr hefyd ddyraniad o £5 miliwn o gronfeydd wrth gefn y cyngor tuag at arian cyfatebol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain  a £1.2 miliwn ar gyfer nifer o gynigion adfywio cyffrous i hybu ffyniant ar draws y fwrdeistref sirol. Fe wnaethon nhw hefyd gymeradwyo rhaglen gyfalaf uchelgeisiol o £14.5 miliwn ar gyfer 2019/20 a fydd yn darparu ystod o fuddion i gymunedau ar draws yr ardal.
 
Ychwanegodd y Cyng Barbara Jones, "Yn anffodus, mae llawer mwy o benderfyniadau anodd ac amhoblogaidd eto i ddod dros y blynyddoedd nesaf, ond mae’n rhaid inni - a byddwn - yn codi i'r her. Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i amddiffyn ein gwasanaethau rheng flaen, amddiffyn ein cymunedau a diwallu anghenion a dyheadau ein trigolion."
 
Mae adroddiad y cynigion cyllideb llawn ar gyfer 2019/2020 ar gael ar wefan y cyngor: https://democracy.caerphilly.gov.uk 



Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Cyngor yn cymeradwyo ymgynghoriad ar gam nesaf y Cynllun Datblygu Lleol
  • Diogelu EICH gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau
  • Cyngor i ystyried camau gweithredu ar gyfer cyflenwi tai
  • Cabinet i ystyried blaenoriaethau'r Fforymau Iau ac Ieuenctid
  • Cabinet yn cymeradwyo cyllid i wneud iawn am ddiffyg yn nyfarniad cyflog athrawon
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl