Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Ionawr 2021    Cyngor Caerffili yn cyhoeddi cynigion cyllideb heb doriadau

News Centre

Cyngor Caerffili yn cyhoeddi cynigion cyllideb heb doriadau

Postiwyd ar : 13 Ion 2021

Cyngor Caerffili yn cyhoeddi cynigion cyllideb heb doriadau

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno ar gyllideb ddrafft uchelgeisiol nad yw'n cynnwys dim toriadau newydd arfaethedig i wasanaethau ar gyfer 2021/22.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, y penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet heddiw (dydd Mercher 13 Ionawr), “Rwy'n falch o'r ffordd y mae'r awdurdod hwn yn parhau i reoli ei gyllideb yn sgil ein rheolaeth ariannol gadarn gyfredol ac ein dull darbodus.

“Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn ariannol gadarn yn ystod y cyfnod ansicr hwn, a hoffwn i ddiolch i bawb dan sylw am wneud hyn yn bosibl.

“Rwy'n gwbl gefnogol i gynigion y gyllideb ddrafft, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn croesawu'r newyddion na fydd toriadau newydd. Mae'n golygu y gallwn ni barhau i ddiogelu ein gwasanaethau allweddol ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y gyllideb ddrafft nawr yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Cyngor Llawn fis nesaf i'w chymeradwyo'n derfynol.

Mae cynigion y gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 3.9% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 89 ceiniog yr wythnos ar gyfer eiddo Band D.

“Mae'n debygol y bydd y cynnydd hwn ymhlith y lleiaf yng Nghymru ac, er nad yw'r un ohonom ni eisiau gweld cynnydd yn Nhreth y Cyngor, mae'n bwysig deall bod hyn yn chwarae rhan bwysig wrth fantoli'r gyllideb,” meddai'r Cynghorydd Marsden wedyn.

Er gwaethaf y darlun cyffredinol cadarnhaol, mae'r Cyngor yn awyddus i bwysleisio nad yw'r setliad gan Lywodraeth Cymru yn ymdrin â goblygiadau'r pandemig coronafeirws cyfredol – o ran y costau ychwanegol na'r incwm a gollir. Bydd hyn yn parhau i gael ei ariannu trwy grantiau yn y flwyddyn ariannol newydd a bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n ofalus.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=12514&LLL=1

 

 

https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=12514&LLL=0



Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Cymunedau yn dangos eu cariad mewn ffordd anarferol
  • Cyngor Caerffili yn cymeradwyo cyllideb heb doriadau
  • Caerffili'n Canu
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn rhoi blychau nythu i Barc Cwm Darran ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu
  • Dweud eich dweud – System archebu y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl