Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Ionawr 2021    Diweddariad am ysgolion

News Centre

Diweddariad am ysgolion

Postiwyd ar : 04 Ion 2021

Diweddariad am ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion ledled Cymru yn mabwysiadu dull ‘dysgu cyfunol’ am y pythefnos nesaf, tan ddydd Llun 18 Ionawr. Mae hyn yn golygu na fydd y mwyafrif o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, ond yn dysgu o bell.
 
Dyma lythyr at rieni oddi wrth Brif Swyddog Addysg y Cyngor:

Annwyl Riant,
 
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd a hoffwn i, yn gyntaf, achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich amynedd a'ch cydweithrediad parhaus ynghylch y sefyllfa yn ein hysgolion.
 
Byddwch chi'n ymwybodol bod trafodaethau'n parhau ar lefel genedlaethol rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol ac undebau'r athrawon ynghylch ailagor ein hysgolion yn y ffordd fwyaf diogel posibl er mwyn diogelu'r disgyblion a'r staff.
 
Rydyn ni i gyd yn cytuno bod iechyd a lles cymuned gyfan yr ysgol o'r pwys mwyaf, ac mae trafodaethau wedi bod yn digwydd y bore yma rhwng y Cyngor a phenaethiaid ledled y Fwrdeistref Sirol i gytuno ar y ffordd orau ymlaen.
 
Rydyn ni'n gwybod bod y nifer gynyddol o achosion newydd, yn enwedig yr amrywiad newydd ar y coronafeirws, yn achosi pryder sylweddol. Byddwch chi hefyd, o bosibl, yn ymwybodol y cafodd cyngor newydd ar warchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed ei gyhoeddi cyn y Nadolig, ac mae hyn yn effeithio ar y lefelau staffio yn ein hysgolion.
 
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pob ysgol ledled Cymru yn mabwysiadu dull ‘dysgu cyfunol’ am y pythefnos nesaf, tan ddydd Llun 18 Ionawr. Mae hyn yn golygu na fydd y mwyafrif o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, ond yn cael addysg.
 
Fodd bynnag, bydd ysgolion ar agor i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol/hanfodol cymwys o ddydd Mercher (6 Ionawr). Gwnewch gais drwy ddilyn y ddolen hon:
www.caerffili.gov.uk/Services/Coronavirus/Emergency-school-provision-for-keyworkers?lang=cy-gb
 

Rydyn ni wedi ymrwymo i ailgyflwyno dull addysgu wyneb yn wyneb yn raddol yn achos yr holl ddisgyblion ar ôl 18 Ionawr, cyn gynted ag y bydd asesiadau risg cenedlaethol a lleol yn caniatáu i hynny ddigwydd, ac rydyn ni'n disgwyl rhagor o ganllawiau yn hyn o beth.
 
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ran y mater hwn.
 
Cofion
 
Keri Cole
Prif Swyddog Addysg


Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Cymunedau yn dangos eu cariad mewn ffordd anarferol
  • Cyngor Caerffili yn cymeradwyo cyllideb heb doriadau
  • Caerffili'n Canu
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn rhoi blychau nythu i Barc Cwm Darran ar gyfer Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu
  • Dweud eich dweud – System archebu y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl