News Centre

UN DIWRNOD yw Diwrnod Cofio'r Holocost 2022

Postiwyd ar : 26 Ion 2022

UN DIWRNOD yw Diwrnod Cofio'r Holocost 2022
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr a’r thema ar gyfer eleni yw, ‘Un Diwrnod’.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn Un Diwrnod rydyn ni’n ei neilltuo i ddod at ein gilydd i gofio ac i ddysgu am yr Holocost, erledigaeth y Natsïaid a’r hil-laddiad a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, yn y gobaith y bydd Un Diwrnod yn y dyfodol heb unrhyw hil-laddiad. Rydyn ni'n dysgu mwy am y gorffennol, rydyn ni'n cydymdeimlo ag eraill heddiw, ac rydyn ni'n gweithredu ar gyfer dyfodol gwell.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod pan fyddwn ni'n ceisio dysgu gwersi’r gorffennol a chydnabod nad yw hil-laddiad yn digwydd ar ei ben ei hun yn unig – mae’n broses gyson a all ddechrau os nad yw gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb yn cael eu gwirio a’u hatal.

Roedd yr Holocost yn fygythiad i wead gwareiddiad, a rhaid gwrthsefyll hil-laddiad bob dydd o hyd. Yn aml, mae ein byd ni'n teimlo’n fregus ac yn agored i niwed ac ni allwn ni fod yn hunanfodlon. Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, rhaid i ni i gyd herio rhagfarn ac iaith casineb.

I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffau Diwrnod Cofio’r Holocost, bydd Maenordy Llancaiach Fawr a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn cael eu goleuo i ddangos gweithred o undod.

Bydd nifer o lyfrgelloedd fel Caerffili, Coed Duon, Bargod a Threcelyn hefyd yn arddangos gwaith disgyblion o ysgolion cynradd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae ysgolion wedi cael adnoddau a gwybodaeth am y diwrnod y cafodd Anne Frank ei dyddiadur ar gyfer ei phen-blwydd yn 13, sef 12 Mehefin 1942. Disgrifiodd Anne y dyddiadur fel yr anrheg orau a gafodd hi erioed, a defnyddio hi'r dyddiadur fel arf i fynegi ei meddyliau a’i theimladau ar adegau o ansicrwydd, dathlu ac arswyd.

Cafodd y disgyblion eu hannog wedyn i ysgrifennu yn ôl at Anne a mynegi eu meddyliau a’u teimladau nhw.
Mae goroeswyr yr Holocost a hil-laddiad yn aml yn sôn am yr Un Diwrnod pan newidiodd popeth, weithiau er gwaeth ac weithiau er gwell.

Roedd Iby Knill yn teimlo bod popeth wedi newid o Un Diwrnod i’r llall ac eto nid oedd dim wedi newid...

“Un diwrnod, fe wnaeth Gretl, fy ffrind ysgol, ddweud helo wrtho i wrth fy nghofleidio i. Y diwrnod wedyn, rhedodd hi i ochr arall y ffordd a throi ei phen hi i ffwrdd er mwyn peidio â'm cydnabod fi.”

I Faiza, roedd un diwrnod diffiniol. Yn dilyn rhyfel cartref yn 2003, sydd wedi dadleoli miliynau o bobl, mae llywodraeth y Swdan wedi cefnogi milisia Arabaidd sydd wedi dinistrio cannoedd o bentrefi ac wedi llofruddio miloedd o bobl. Cafodd Faiza ei thargedi gan lywodraeth y Swdan ar gyfer cefnogi dioddefwyr yr hil-laddiad, ac felly, dywed:

“Un Diwrnod, penderfynais i adael fy ngwlad i. Roedd yn benderfyniad anodd, ond nid oedd unrhyw ffordd arall. Gadewais fy nghartref, fy nghyfeillion, fy mhobl; Gadewais fy holl eiddo. Mae llyfr ar fwrdd ger fy ngwely i sy'n agored i dudalen 49 ac yn aros amdanaf i.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor Caerffili, “Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, gan na ddylen ni byth anghofio erchyllterau’r Holocost a hil-laddiad arall ledled y byd. Mae thema eleni, ‘Un Diwrnod’, yn ein hannog ni i ganolbwyntio am un diwrnod yn benodol ar yr Holocost. Dim ond cipolwg mewn amser yw Un Diwrnod ac, felly, ni all roi’r darlun, y cyd-destun na'r cefndir llawn sydd eu hangen, ond gall helpu dod â darn o’r darlun llawn yn fyw.

“Rydyn ni'n annog plant ac aelodau’r teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a difyr sy’n codi ymwybyddiaeth am yr Holocost a hil-laddiad a’r bobl a’r gwledydd sydd wedi dioddef.”
 
Mae gwefan Diwrnod Cofio’r Holocost yn adnodd gwych i athrawon a rhieni sydd am addysgu eu disgyblion/plant nhw i ddysgu gwersi o’r gorffennol mewn ffyrdd creadigol, myfyriol ac ysbrydoledig.

I gymryd rhan, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost: https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/
 
Mae hefyd gannoedd o ffilmiau, podlediadau a rhaglenni dogfen sy'n canolbwyntio nid yn unig yn yr erchyllterau a gyflawnwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond hefyd ar y degawdau dilynol gan ddangos ôl-effeithiau'r troseddau. Mae rhai ffilmiau/rhaglenni dogfen nodedig sydd wedi ennill gwobrau lluosog yn cynnwys:
 
Schindler’s List (1993)
Un o’r ffilmiau gorau erioed am yr Holocost ac mae wedi ennill saith Gwobr yr Academi. Schindler's List yw epig ysgubol Steven Spielberg sy'n dilyn stori bywyd go iawn Oskar Schindler (Liam Neeson), dyn busnes o'r Almaen a achubodd mwy na 1,000 o fywydau, Iddewon Pwylaidd yn bennaf, rwy eu cyflogi yn ei ffatrïoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r cast anhygoel yn cynnwys Ralph Fiennes fel swyddog sadistaidd yr SS, Amon Goeth, a Ben Kingsley fel cyfrifydd Iddewig Schindler, Itzhak Stern.
 
The Pianist (2002)
Mae’r ddrama fywgraffyddol bwerus hon gan Roman Polanski yn seiliedig ar hunangofiant am yr Holocost gan y pianydd a’r cyfansoddwr Iddewig Pwylaidd, Władysław Szpilman, (Adrien Brody).  Wedi’i enwebu am saith Oscar, enillodd The Pianist dri am y cyfarwyddwr gorau, y sgript ffilm wedi’i haddasu orau (Ronald Harwood) a’r actor gorau, yn ogystal â’r Palme d’or- yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2002.
 
Auschwitz: The Nazis and the Final Solution (2005)
Cyfres ddogfen rymus chwe rhan gan y BBC sy'n cyflwyno golwg fanwl o stori Auschwitz, gan gynnwys cyfweliadau â chyn-garcharorion a gwarchodwyr ac yn ail-greu digwyddiadau hanesyddol. O'r syniad gwreiddiol i'r realiti, y llofruddiaeth dorfol, yr arbrofi ac, yn y pen draw, y rhyddhau a'r dial, mae'r gyfres yn ymdrin â phob agwedd o'r gwersyll Natsïaidd drwg-enwog hwn, lle cafodd mwy na miliwn o Iddewon eu lladd.
 
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ein galluogi ni i gofio - ac am bwrpas. Mae'n rhoi cyfrifoldeb i ni weithio i sicrhau dyfodol mwy diogel, gwell i bawb. Gall pawb gamu i'r adwy a defnyddio eu doniau nhw i fynd i'r afael â rhagfarn, gwahaniaethu ac anoddefgarwch lle bynnag y byddwn ni'n dod ar eu traws.


Ymholiadau'r Cyfryngau